
Am
ARCHWILIO HANES CASNEWYDDDarganfyddwch hanes datblygiad daearegol, archeolegol a hanesyddol Casnewydd. Archwiliwch arddangosfeydd yr Amgueddfa a chael gwybod rhagor am Gaerwent Rufeinig, gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd a bywyd ar droad yr 20fed Ganrif.
Olrheinir hanes y bobl fu'n byw yn yr ardal hon o'r dystiolaeth gynharaf 250,000 o flynyddoedd yn ôl hyd at yr ugeinfed ganrif, ac maent yn cynnwys pobl Beaker, y Silwriaid, y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr a'r Normaniaid.
Mae'r casgliad Hanes Cymdeithasol yn yr amgueddfa yn adlewyrchu bywydau bob dydd pobl yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos dros y 200 mlynedd diwethaf. Mae'r themâu a gwmpesir gan y casgliadau yn amrywio o fywyd domestig a phersonol, addysg, crefydd a gwleidyddiaeth i ddatblygiadau diwydiannol lleol ac amaethyddiaeth ac yn cynnwys gwrthrychau mor amrywiol ag offer, eitemau i'r cartref i arteffactau yn ystod y rhyfel, ffotograffau a gwisg. Y casgliadau mwyaf arwyddocaol o fewn hanes cymdeithasol yw archif Pont Gludo, sy'n cynnwys yr holl ddyluniadau gwreiddiol ar gyfer y bont a ffotograffau o'i holl adeiladwaith a chasgliad y Siartwyr; arfau, broadsheets, arian a phrintiau o brotest y Siartwyr 1839 yng Nghasnewydd.
DARGANFOD CELF
Mae'r Oriel Gelf wedi ei chysegru i arddangos paentiadau olew a arddangosfeydd newidiol amrywiaeth o gyfryngau a themâu. Dewch i ddarganfod hanes yfed te yn arddangosfa John ac Elizabeth Wait o debotau a rhyfeddu at yr ystod o serameg a gasglwyd gan Iris Fox.
MWYNHAU GWEITHGAREDDAU A DIGWYDDIADAU
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn cynnig amrywiaeth o sgyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu. Peidiwch â cholli'r ardal blant yn yr Oriel Gelf a'r 'drysau tylwyth teg' sydd ynghudd o amgylch yr Amgueddfa. Ewch i wefan yr Amgueddfa i weld beth sy' 'mlaen yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ar hyn o bryd.
Archwilio, darganfod a mwynhau pethau anhygoel!
Cyfleusterau
Arlwyaeth
- Lluniaeth ysgafn ar y safle
Cyfleusterau'r Eiddo
- Cŵn heb eu derbyn (ac eithrio tywyswyr)
- Ni chaniateir ysmygu
- Siop anrhegion
- Toiledau
Grwpiau
- Maes addysg/astudio
Hygyrchedd
- Cadeiriau olwyn ar gael
- Mynediad i bobl anabl
- Toiledau anabl
Marchnadoedd Targed
- Derbyn grwpiau
Plant
- Cyfleusterau newid babanod