I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Am Sir Fynwy
Daw ymwelwyr i Sir Fynwy i brofi ei threftadaeth a diwylliant hynod, ei thirweddau ysblennydd, ei bobl, ei bwyd, ei hiaith – yr holl bethau sy’n ei gwneud yn neilltuol. Mae Sir Fynwy yn dangos cefn gwlad ar ei gorau – trefi marchnad bach (Y Fenni, Trefynwy, Cil-y-coed, Cas-gwent a Brynbuga) a thapestri cyfoethog o dir amaethyddol gyda phentrefi bach gwasgaredig. Mae gan y sir enw da cynyddol am gynhyrchu dewis eang o fwydydd a diodydd lleol rhagorol. Yn wir, Sir Fynwy yw’r unig sir yng Nghymru i ennill teitl Prif Gyrchfan Twristiaeth Bwyd yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru.
Yr amgylchedd naturiol yw un o brif asedau Sir Fynwy, o’i man uchaf yn Chwarel y Fan i’r iseldir arfordirol helaeth yng Ngwastadeddau Cil-y-coed. Mae tua 5198 llwybr troed yn gyfanswm o 2196.5 cilomedr, sy’n annog cerddwyr, seiclwyr a marchogwyr.