I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Rhesymau i ymweld > Picnic yn Sir Fynwy
Rydym wedi cymryd mynd am bicnic o ddifrif yn Sir Fynwy ers blynyddoedd. Mewn gwirionedd, cafodd y Tŷ Crwn ar y Cymin ei godi yn 1794 gan Glwb Picnic Trefynwy i roi man gyda golygfeydd gwych ar gyfer cinio, yn edrych dros y dref farchnad hon ar y gororau yn Nyffryn Gwy. Heb fawr iawn o ymdrech, gallwch brynu cynnyrch lleol bendigedig yn ein delis, siopau bara a marchnadoedd ffermwyr i wneud picnic hyfryd. Y cyfan sydd ei angen wedyn yw golygfa ysblennydd a rhywbeth i ddiddanu aelodau ieuengach eich parti. Islaw mae ein hoff bum fan picnic gydag awgrymiadau lle i brynu’r cynhwysion ar gyfer eich picnic perffaith. Cadwch olwg am rygiau picnic a basgedi helyg a wnaed yn lleol ( i gael y teimlad go iawn yno) yn uniongyrchol gan y gwneuthurwyr yng Nghanolfan Crefftau Court Cupboard.
Wrth gwrs ni allwn wneud unrhyw beth os daw dafn o law o bryd i’w gilydd.
Yn gyntaf, lle sydd mor gyfystyr â phicnic fel fod hynny yn ei enw: Safle Picnic Craig Ddu. Ar Lwybr Arfordir Cymru ger Cil-y-coed, mae’n cynnig golygfeydd gwych dros Fôr Hafren a digon o lei i ymlacio a mwynhau eich picnic.
Edrychwch ar y cerfluniau a osodwyd yn y safle yn ddiweddar. Mae’r Peiriannydd yn sefyll ar ben yr hen slipffordd, yn edrych mas ar draws y dŵr tuag at Bont Tywysog Cymru. Ysbrydolwyd y cerflun hwn gan y peiriannydd sifil Thomas A. Walker o’r 19eg ganrif, a gwblhaodd Dwnnel Hafren a chodi Sudbrook ar gyfer gweithwyr y twnnel. Yr ail gerflun yw Pysgotwr pren yn cerdded drwy’r glaswellt yn yr ardal picnic, yn dal rhwyd gafl gydag eog pren yn neidio allan o’r glaswellt o’i flaen, i ddathlu treftadaeth pysgota rhwyd gafl yr ardal.
Dewch i fwynhau picnic ar lannau’r Afon Wysg yn Nolydd y Castell, Y Fenni. Dyma lle dywedwn “Cerddwch ar y glaswellt. Rholiwch o amgylch amdano ac anghofiwch am holl ofidiau’r ddwy flynedd a mwy diwethaf”. Mae 20 hectar o ddolydd, felly mae digon o le. Unwaith y byddwch wedi ymlacio gallwch ymchwilio’r ardal ar Daith Iechyd 1 filltir Dolydd y Castell.
Opsiwn arall cyfagos yw tiroedd Castell y Fenni, sydd ar agor bob dydd rhwng 11am – 4pm. Cyfunwch eich picnic gydag ymweliad i Amgueddfa’r Fenni (o fewn y castell), sydd ar agor bob dydd heblaw dyddiau Mercher.
Yn uchel uwchben Trefynwy mae’r Cymin, bryn coediog amlwg gyda 9 erw i gerdded ynddynt. Bu’n safle picnic o fri ers y 18fed ganrif, ac roedd mor enwog fel y gwnaeth hyd yn oed yr Admiral Nelson ymweld yn 1801. Gan gynnig golygfeydd godidog dros Drefynwy (ac mor bell â Bannau Brycheiniog), mae’n fan perffaith ar gyfer picnic. O’r dref, mae’n bosibl cerdded (1.5 milltir ar i fyny yn dilyn llwybr troed Clawdd Offa) neu yrru (serth gyda throfeydd cul) oddi ar yr A4136.
Dewch i fwynhau eich picnic yn harddwch Castell Cil-y-coed, a godwyd yn yr oesoedd canol. Mae mynediad am ddim, ac mae digonedd o ofod awyr agored o fewn y castell i ymlacio ynddynt. Mae hefyd ystafell te i brynu bwyd a diod os yw’n well gennych.
Mae’r castell mewn parc gwledig 55-erw gyda rhannau coediog, glan yr Afon Nedern a thir parc dymunol agored i’w mwynhau. Gallwch fwynhau’r cyfan ar Lwybr Iechyd 1 filltir Castell Cil-y-coed.
Mae Cei Goetre ar gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, a ystyrir gan lawer i fod yn gamlas dlysaf Prydain. Mae’r gamlas yn gynefin naturiol amrywiol – llwybr natur lliwgar ym mhob tymor – a chartref i amrywiaeth eang o dreftadaeth ddiwydiannol hanesyddol. Mae’n llwybr cerdded hir ar gyfer cerddwyr a seiclwyr ac yn llwybr dymunol i’w ymchwilio ar gwch dydd trydan, caiac neu gwch cul. Mae caffe hyfryd ‘Penelope’s’ yng Nghei Goetre lle gallwch brynu diodydd a bwydydd poeth ac oer, neu ddod â phicnic ac eistedd ar y glaswellt yn ymyl yr odynnau calch. Gallwch hefyd logi cychod o’r safle gan ABC Boat Hire.