Pethau i'w gwneud yn Sir Fynwy
Nid oes rhaid i chi fod yn ffit i ddod yma. Ac yn sicr nid oes angen i chi chwysu chwartiau unwaith y byddwch wedi cyrraedd, er bod gennym fwy na 1,000 milltir o lwybrau cyhoeddus i gerdded! Rydym yn gwarantu unwaith y byddwch chi'n gweld ein cefn gwlad y byddwch chi am fynd allan i'r awyr agored.
P'un a yw'n cerdded Llwybr Arfordir Cymru ar eich pen eich hun, caiacio i lawr yr afon Gwy gyda'ch teulu neu'n chwarae rownd o golff fel rhan o dîm, does dim prinder gweithgareddau i chi roi cynnig arnyn nhw. Rhowch gynnig ar badlfyrddio - un o'r chwaraeon sy'n tyfu cyflymaf i daro'r DU - neu ar gyfer y rhai mwy anturus, profwch y wefr o esgyn ar geryntau thermol ar hediad paragleidio tandem oddi ar y Blorens. Ac os yw'n bwrw glaw ac nad ydych chi eisiau gwlychu, mae yna ddigon o bethau i'w gwneud o dan do. Ymwelwch ag un o'n hamgueddfeydd yn y Fenni, Trefynwy neu Gas-gwent i glywed straeon y trefi hyn, neu ymwelwch â Neuadd y Sir yn Nhrefynwy, lle yn Ystafell Llys Rhif 1 ym 1840 cafwyd tri arweinydd y mudiad Siartaidd - a oedd yn ceisio diwygio gwleidyddol - yn euog o frad a'i ddedfrydu i farwolaeth.
Neu ymwelwch â'n trefi prysur, pob un â'i chymeriad ei hun ac ystod eang o siopau annibynnol.