I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Gwyliau Gwyrdd
Beth nad sydd i’w hoffi am wyliau eco-gyfeillgar yn Sir Fynwy? Rydym wedi llunio rhai syniadau i’ch helpu i fwynhau goreuon yr ardal, gan wneud dewisiadau cynaliadwy am y pethau a wnewch a’r lleoedd yr ydych yn aros ynddynt.
Gwleddwch ar fwydydd a diodydd a gafodd eu tyfu neu eu cynhyrchu yn y sir. Mae’r dewis yn syfrdanol: o eidion gwartheg duon Cymreig a chigoedd oer rhagorol, i fêl a hufen â a chaws, o lysiau organig a gasglwyd yn ffres y bore hwnnw, i gwrw, gwinoedd a gwirodydd lleol yn llawn blasau lleol. Gwnewch siopa cynaliadwy yn bleser gwirioneddol mewn siopau dim gwastraff a stondinau marchnad cyfeillgar.
Ymchwiliwch yr ardal mewn ffordd gyfeillgar i’r amgylchedd – ar droed, ar feic, mewn car trydan neu mewn cwch a gaiff ei yrru gan bŵer yr haul. Gwisgwch y dillad cywir ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, a mwynhau ein gwarchodfeydd natur, coedwigoedd, mynyddoedd, gwlypdiroedd ac afonydd drwy’r tymhorau.
P’un ai ydych yn wyth neu’n wyth deg wyth oed, byddwch yn teimlo’n gymaint gwell os yn yr awyr agored yn harddwch naturiol Sir Fynwy sy’n cynnwys Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Safle Treftadaeth Byd Blaenafon.
Ewch i fannau diarffordd, a chanfod y gemau cudd y mae pobl leol yn eu caru. Dewch i fyw y bywyd da mewn llety heb fawr iawn o ôl-troed carbon. Mae tirlun gwledig godidog Sir Fynwy yn llawn cuddfannau cysurus lle mae’r unig bethau i dynnu eich sylw fydd y golygfeydd a synau natur.
Nid yn unig mae’r gwyliau gwyrdd hyn yn fwy caredig i’r ddaear a’n cymunedau lleol, maent hefyd yn wych ar eich cyfer chi a’ch teulu. Felly byddwch yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned, tra’n mwynhau profiadau amhrisiadwy.