Magwyr yw’r dref gyntaf y byddwch yn ei chyrraedd wrth ddod i Gymru ar yr M4, yn agos at Gyffordd 23a. Yn berffaith ar gyfer arhosiad byr neu hwy, mae sgwâr y pentref (yn llawn o dafarndai, siopau bara, siopau a mwy) wedi cadw ei naws gwledig.
Saif gweddillion sylweddol Tŷ’r Rhaglaw o’r 14eg ganrif yn falch o hyd yn y dref. Y Rhaglaw, dyn o bwys, oedd cynrychiolydd cyfreithiol yr abaty a’i waith ef oedd casglu rhent a’r dyledion eraill, gan gynnwys y degwm ar ran yr abaty. Yr adeilad hwn sydd wedi ei restru gan Cadw yw’r unig un o’i fath yng Nghymru.
Mae Magwyr yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer Gwastadeddau Gwent yng Nghors Magwyr, a Llwybr Arfordir Cymru.