I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Archwiliwch Sir Fynwy > Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog > Ceunant Clydach
Mae Ceunant Clydach yn berl cudd anhygoel yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy, rhwng Y Fenni a Brynmawr. Mae'n geunant coediog ysblennydd, a ffurfiwyd gan Afon Clydach wrth iddi ymdroelli tuag at Afon Wysg, ac yn ystod y chwyldro diwydiannol y bu'r afon hon sy’n llifo’n gyflym yn helpu i bweru'r gweithfeydd haearn a'r ffwrneisi, y chwareli a'r pyllau glo ar draws y dirwedd.
Erbyn heddiw mae natur wedi dwyn y dyffryn hwn yn ôl, gyda rhaeadrau, pyllau, coetir a bywyd gwyllt ledled yr ardal. Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw rhan o'r ceunant, sy'n bwysig am ei choedwigoedd ffawydd hynafol, adar, ystlumod, mwsoglau a chennau.
Mae nifer o deithiau cerdded a ffyrdd o fynd o gwmpas y ceunant, gan gynnwys Llwybr Beicio Cenedlaethol golygfaol 46. Gellir dod o hyd i barcio am ddim ar safle Gweithfeydd Haearn Clydach.
Teithiau Cerdded Ceunant Clydach
Mae tair taith gerdded sy'n archwilio Ceunant Clydach, y gellir dechrau pob un ohonynt ar safle Gweithfeydd Haearn Clydach:
Llwybr Trysor y Coridor i’r Gorffennol
Pethau mae’r Rhaid eu Gweld
Gweithfeydd Haearn Clydach - Olion gwaith haearn o'r 18fed ganrif a fu unwaith â dros 1300 o bobl yn gweithio ar y safle ddydd a nos. Mae sylfaen wych i archwilio'r ceunant.
Pont y Diafol - Mae'r bont bwa rhestredig gradd II hon yn ein hatgoffa o dreftadaeth ddiwydiannol y dyffryn (ac yn ffefryn i ffotograffwyr). Yn wreiddiol roedd yn bont pynfeirch a adeiladwyd tua 1700, a adeiladwyd i gludo mwynau i Ffwrnais Llanelly. Er bod y bont sy’n fwy enwog yng Ngheredigion â’r un enw yn Saesneg - Devil’s Bridge, Pont y Diafol yw ein pont ni, nid Pontarfynach.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Clydach - Safle 61 erw wedi'i warchod ar gyfer ei choedwigoedd ffawydd lled-hynafol. Yn ôl y chwedl, ysbrydolwyd William Shakespeare i ysgrifennu A Midsummer Night's Dream ar ôl cerdded yn y coedwigoedd hyn.
Sut i gyrraedd Ceunant Clydach
Teithio ar Fysiau - caiff Ceunant Clydach ei wasanaethu gan yr A3 a'r llwybrau bws #78 rhwng Y Fenni a Brynmawr. Y safle bws ym Mhont Clydach yw'r agosaf at y Gweithfeydd Haearn.
Teithio ar y Trên - Mae Gorsaf Drenau’r Fenni ddeng munud ar droed o Orsaf Fysiau'r Fenni.
Beic - Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 46 yn mynd â chi o Faes Parcio Croesfan Llan-ffwyst trwy Geunant Clydach i Frynmawr. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar y llwybr hwnnw.
Car - Dilynwch ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 rhwng y Fenni a Brynmawr. Gadewch yr A465 yng Nghlydach. Dilynwch yr arwyddion brown i gyrraedd y maes parcio a'r ardal picnic ar y dde. (SO 230 134). Parciwch a dilynwch yn ofalus y ffordd i ffwrdd o'r A465. Trowch i'r dde wrth y tro sydyn yn y ffordd a dilynwch y lôn i gyrraedd y fynedfa i'r gweithfeydd haearn ar y chwith.