I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Am Sir Fynwy > Trefi a phentrefi
Mae gan drefi a phentrefi Sir Fynwy eu cymeriad unigryw eu hunain. (Y Fenni fel y lle i garwyr bwyd, Cil-y-coed fel prifddinas Gwastadeddau Gwent, Cas-gwent fel hyb chwaraeon, Trefynwy fel tref chwedlau - hanesyddol a heddiw - a Brynbuga, tref flodau arobryn Sir Fynwy). Mae'r cyfan yn ddigon bach i gerdded o’u cwmpas yn rhwydd, ond yn ddigon mawr i ddal eich sylw am ddiwrnod.
Er gwaethaf heriau’r pandemig a newid ymddygiad defnyddwyr, mae ein strydoedd mawr yn dal yn fyw, diolch i raddau helaeth i griw o bobl siop sy’n gweithio mor galed. Yn brysur ac yn llawn pobl o bob oed yn mwynhau'r profiad siopa. Wedi'i nodweddu gan enwau na fyddwch wedi'u gweld mewn mannau eraill. Ffenestri siopau sy'n arddangos ffrwyth y tymor presennol, neu sy'n rhoi cipolwg i chi ar angerdd y perchennog. Mae rhai siopau'n gwerthu cynnyrch lleol. Mae rhai yn allfeydd arbenigol ar gyfer cynhyrchion o fannau eraill. Mae pob un yn cynnig gwasanaeth personol.