I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Cyfeillgar i deuluoedd
Gyda chymaint o bethau i gadw eich rhai bach (a mawr) wedi’u ddiddanu, sir Fynwy yw'r lleoliad perffaith ar gyfer seibiant teuluol.
Gadewch iddyn nhw fod yn Frenin neu Frenhines yn un (neu fwy) o'n cestyll!
Er yn heddychlon heddiw bu brwydrau ffyrnig yma ar un adeg oherwydd lleoliad Sir Fynwy ar ffin Cymru a Lloegr. Mae atgofion o'r brwydrau a fu yn parhau gyda naw castell ar draws y dirwedd fryniog, yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, y Grysmwnt, Trefynwy, Rhaglan, Ynysgynwraidd, Brynbuga a’r Castell Gwyn. Mwynhewch theatr awyr agored neu ymwelwch â'r amgueddfa yng Nghastell y Fenni neu chwiliwch am Nerys y Ddraig yng Nghastell Cil-y-coed. Gallwch ddod o hyd iddi rhwng tudalennau'r pecyn gweithgareddau teuluol newydd Archwilio a Chreu sy'n llawn syniadau ar gyfer archwilio'r safle. Gallwch hyd yn oed aros mewn castell drwy glampio â Castle Knights ym Mrynbuga.
O Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng ngogledd-orllewin y sir i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy yn y dwyrain, a Gwastadeddau Gwent isel yn y de, mae gan Sir Fynwy dros 1,000 milltir o hawliau tramwy cyhoeddus i'w harchwilio gyda'ch rhai bach (neu’r rai hŷn). O deithiau cerdded cylchol byr i lwybrau cenedlaethol pellter hir, yn ogystal â'r rhai a fwynhawyd orau gyda'ch ci. Os yw'n bwrw glaw, ewch ati i fwynhau'r pyllau dŵr bach!
Beiciwch yn ddiogel ar lwybrau oddi ar y ffordd.
Dewch â'ch beic eich hun ac aros mewn llety sy'n addas i feiciau neu llogwch feic o fusnes llogi beiciau lleol cyn i chi gyrraedd.
Rhowch gynnig ar y Llwybr Gwyrdd aml-ddefnydd pum milltir newydd yn ystod misoedd yr haf. Mae'r llwybr yn cysylltu Tyndyrn â Chas-gwent yn Nyffryn Gwy isaf ac yn rhedeg ar hyd Rheilffordd Dyffryn Gwy segur drwy dwnnel Tidenham 1 cilomedr ysblennydd. Neu Lwybr 49 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n dilyn camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o'r Fenni i ddinas Casnewydd. Os ydych yn chwilio am fwy o her, archebwch daith feicio mynydd dan arweiniad.
Edrychwch ar ein caffis a'n llety sy'n addas i feiciau i'ch gwneud chi a'ch beic i deimlo'n gwbl gartrefol.
Ewch ar daith dywys canŵio agored ar yr Afon Gwy neu llogwch gwch yng Nglanfa Goetre ar gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Rhowch gynnig ar badlfyrddio sefyll neu fordhwylio yn Llyn Llandegfedd. Neu gaiacio, badlfyrddio sefyll, sgramblo ceunant, dringo creigiau, abseilio, ogofa, coedwriaeth neu saethyddiaeth yn Nyffryn Gwy.
Mwy am weithgareddau Sir Fynwy
Mwynhewch nofio yn y pwll yn un o'n pedair canolfan hamdden. (Mae gan bob un ohonynt declynnau codi hygyrch a stepiau). Mae Canolfan Hamdden Trefynwy a ailddatblygwyd yn ddiweddar yn cynnig pwll nofio 25m, canolfan chwarae a chaffi 3 llawr i blant, a sba lles a harddwch.
Camwch yn ôl mewn amser yn un o'n hamgueddfeydd
Ymwelwch â'r llety hela Fictoraidd ar dir castell y Fenni neu darganfyddwch hanes tref ar y ffin a dysgu sut y daeth Dyffryn Gwy yn fan geni Twristiaeth Brydeinig yn amgueddfa Cas-gwent. Dysgwch am straeon ein bywyd gwledig ym Mrynbuga.
Cadwch lygad am Ostin y Pathew yn Hen Orsaf, Tyndyrn
Gallwch ddod o hyd iddo rhwng tudalennau'r pecyn gweithgareddau teuluol newydd Archwilio a Chreu sy'n llawn syniadau ar gyfer archwilio Hen Orsaf, Tyndyrn. Casglwch stampiau a sticeri Ostin wrth gwblhau gweithgareddau a thynnwch luniau gyda'n bwrdd torri lluniau Pathew! Ar ôl hynny, mwynhewch gacennau blasus, hufen iâ a mwy yn lleol yng nghaffi'r orsaf Fictoraidd. Gallwch hyd yn oed brynu hufen iâ i'ch ci.