Er mwyn derbyn y cyngor gorau posib ar ble i aros, beth i’w wneud, sut i deithio o gwmpas y lle a’r hyn sydd yn digwydd, yna cysylltwch gyda’n staff cyfeillgar yn y Canolfannau Croeso yng Nghas-gwent a’r Fenni.
Mae’r Canolfannau Croeso hefyd yn gwerthu nifer o gofroddion a bwyd a diod lleol o safon uchel ac mae yna gaffi hyfryd yng Nghanolfan Groeso Cas-gwent.
Mae gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr ar gael hefyd yn neuadd y Sir, Trefynwy ac yn ystod tymor yr haf yng Nghastell Cil-y-coed, Amgueddfa Bywyd Gwledig Brynbuga a’r Hen Orsaf, Tyndyrn.
Ewch i ddarllen ein canllaw ar gyfer ymwelwyr, Croeso i Sir Fynwy, am ysbrydoliaeth.
Tywyswyr Bathodynnau Glas
Os hoffech gael eich tywys gan aelod cymwys o Gymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru, mae tywyswyr llawrydd yma ar gael i gynnal mathau gwahanol o deithiiau, boed yn deithiau fesul awr mewn car neu fws i deithiau estynedig a hirach ar hyd a lled Cymru.