I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Pethau i'w gwneud > Teithiau a golygfeydd
Os ydych chi'n dod i Sir Fynwy am y tro cyntaf a dim ond ychydig o amser sydd gennych yn yr ardal, beth am fynd ar daith dywys i wneud y gorau o'ch ymweliad a darganfod perlau cudd yr ardal, ei hanes neu fythau a chwedlau.
Aelodau Cymdeithas Teithiau Tywysedig Swyddogol Cymru yw'r unig dywyswyr a gydnabyddir yn swyddogol i allu tywys yng Nghymru. Gallant ddarparu Tywyswyr Bathodyn Glas a Gwyrdd hyfforddedig, proffesiynol a phrofiadol iawn, a fydd yn helpu i ddod â'ch taith yn fyw.
Ar gyfer y sawl sydd am gael eu tywys o gwmpas y sir ar droed, mae nifer o opsiynau gwych gennym. Mae modd i chi gofrestru ar gyfer taith gerdded dywysedig hirfaith neu taith gerdded gylchol mwy byr gyda un o’n teithiau cerdded tywysedig cyson. Dyma’r ffordd berffaith i weld rhannau o Sir Fynwy na sydd wedi eu harchwilio gymaint.
Os ydych am fwrw ati ar liwt eich hun, mae nifer o deithiau cerdded hunan-dywsyedig gennych. Mae hyn yn cynnwys taith o gwmpas gwinllan sydd yn cynnwys blasu gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau neu ymweld gyda Llwybr Agincourt Cymru gan ddilyn yn ôl-troed saethwyr dewr Harri’r V.
Dilynwch y dolenni isod am fwy o wybodaeth