Mae beicio yn rhan angerddol o Sir Fynwy. Mae gennym ddau o'r llwybrau pellter hir ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n dechrau yma yng Nghas-gwent: y Llwybr Celtaidd (220 milltir yn tramwyo ag ymyl ddeheuol Cymru wrth fynd i'r gorllewin ar draws Pont Gludo Casnewydd), a Lôn Las Cymru (185 milltir yn mynd i'r gogledd drwy Fannau Brycheiniog i Eryri).
Mae Sir Fynwy hefyd yn gartref i Ŵyl Feicio fawreddog Y Fenni, sy'n cynnwys ar ei rhaglen reidiau teuluol yn ogystal â digwyddiadau sy'n rhoi'r cyfle i wylio'r beicwyr proffesiynol yn gwneud i’r gamp edrych yn hawdd.
I feicwyr sydd eisiau mynd allan ar y ffordd yn unig, mae Sir Fynwy yn gartref i 'Y Tymbl' - dringfa graddiant chwedlonol o 6 cilometr 10% (a restrir fel un o'r 100 dringfa feicio orau ym Mhrydain), a sawl caffi a llety cyfeillgar i feiciau.
Am brofiadau beicio mwy hamddenol, rhowch gynnig ar y llwybr Greenways aml-ddefnydd newydd sydd oddi ar y ffordd sy'n cysylltu Tyndyrn â Chas-gwent yn rhan isaf Dyffryn Gwy, gan redeg ar hyd Rheilffordd segur Dyffryn Gwy a thrwy dwnnel ysblennydd 1 cilometr Tidenham. Neu Lwybr 49 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n dilyn Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o'r Fenni i ddinas Casnewydd.
Llwybrau Beicio Pellter Hir Sir Fynwy
Lon Las Cymru
Y Llwybr Celtaidd
Llwybrau Troedio a Throtian
Datblygodd tri llwybr amlbwrpas ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cheffylau.
Hanesio Cudd Tyndyrn: taith 11 milltir o gerdded (neu drotian, neu feicio!) o gwmpas Tyndyrn & Dyffryn Angiddy
Darganfyddiadau Dingestow: Taith gerdded 5.5 milltir o amgylch Sir Fynwy Wledig ger Trefynwy. Gellir hefyd ei rhannu'n 2 daith gerdded fyrrach, addas i deuluoedd.
Whitestone, Whitebrook a Gwy: 14 1/2 milltir o gerdded o amgylch Dyffryn hardd Gwy.
Velothon Cymru 2017 Llwybrau Ymarfer
Beiciwch lwybrau'r pencampwyr ym Mrynbuga gyda llwybrau hyfforddi swyddogol Velothon Cymru 2017, sy’n cynnig digon o anawsterau ac amrywiol hydoedd. Y ffordd berffaith o archwilio Sir Fynwy a hyfforddi ar gyfer eich cystadlaethau eich hun.
Dolen Wysg i Drefynwy (30 milltir) https://ridewithgps.com/routes/18186508
Dolen Wysg i Gas-gwent (43.7 milltir) https://ridewithgps.com/routes/15952510
Dolen Brynbuga i Langwym (46 milltir) https://ridewithgps.com/routes/17096427
Dolen Brynbuga i Drefynwy drwy'r Fenni (46.4 Miles) https://ridewithgps.com/routes/17612478
Wysg i'r Gelli Gandryll (70 milltir) https://ridewithgps.com/routes/15205475