I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Priodasau a chynadleddau > Priodasau Casgliad Treftadaeth MonLife
Beth am briodi yn un o’n safleoedd Casgliad Trefniadau unigryw? Dywedwch ‘gwnaf’ mewn cerbyd rheilffordd o oes Victoria, mewn ysblander Neuadd Sirol Sioraidd neu mewn castell hudolus o’r canol oesoedd. Y cyfan yn amgylchedd godidog Sir Fynwy.
Priodasau yn yr Hen Orsaf, Tyndyrn
Adeiladwyd yr Hen Orsaf, Tyndyrn fel gorsaf reilffordd wledig yng nghanol Dyffryn Gwy yn Oes Victoria. Gallwch briodi yn un o’n gerbydau GWR, y tu mewn i’r Blwch Signalau neu tu mewn i Ystafell Aros yr Orsaf.
Mae ar lein reilffordd wreiddiol Dyffryn Gwy o Gas-gwent i Drefynwy a gafodd ei chau yn 1964. Heddiw mae dau adeilad o oes Victoria wedi eu hadfer yn gariadus, ein hystafell aros a blwch signalau. Mae gennym ddau gerbyd wedi’u hadfer. Cynigiwn y lleoliad perffaith ar gyfer eich seremoni a’ch gwledd briodas. Delfrydol ar gyfer priodasau arddull y gorffennol, unigryw neu gyda thema rheilffordd.
Mae ein rheilffordd mewn 10 erw o ddolydd ar lan yr afon gyda’r Afon Gwy yn dolennu drwy’r safle. Dewch i fwynhau’r tawelwch a golygfeydd godidog gyda Dyffryn Gwy yn y cefndir. Mae mynediad i gerbyd ar gyfer y ddol isaf ar lan yr afon ac mae’n berffaith ar gyfer marquee, tipi neu yurt ar gyfer eich derbyniad.
Gallwch briodi yn un o’n cerbydau GWR, tu mewn i’n Blwch Signalau neu Ystafell Aros yr Orsaf. I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu gweld y lleoliad, anfonwch e-bost at: oldstationtintern@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01291 689566
Priodasau yng Nghastell Cil-y-coed
Mae lleoliad tylwyth teg yn aros amdanoch ar gyfer eich priodas yma yng Nghastell Cil-y-coed. Bydd ein tîm neilltuol yn gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd i sicrhau’r briodas y buoch yn breuddwydio amdani.
Mae golygfa wych Castell Cil-y-coed wedi dominyddu’r tirlun am dros 900 mlynedd. Mewn 55 erw o dir parc yn edrych dros yr afon Nedern, mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad delfrydol ar gyfer diwrnod eich priodas. Fe’ch gwahoddwn i gynnal eich seremoni priodas, derbyniad a dathliadau min nos yn ein safle unigryw.
P’un ai ydych yn bwriadu cael priodas fach agos atoch neu ddathliad mawr, bydd ein clos godidog a neuadd wledda hyfryd yn y porthdy yn sicr o wneud argraff. Cyfuniad o dreftadaeth ac ysblander i wneud eich diwrnod yn un i’w goleddu a’i gofio am byth.
I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu i weld y safle anfonwch e-bost at:: caldicotcastle@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01291 420241