I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad
Ble mae Sir Fynwy?
Os nad ydych yn siŵr ble mae Sir Fynwy, ac a yw hi yng Nghymru neu Loegr, peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae enw a maint y sir wledig hon wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd, gyda Sir Fynwy heddiw yn cwmpasu 60% dwyreiniol y sir hanesyddol. Ond gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd-orllewin ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy yn y dwyrain, mae'n werth dod i'n hadnabod yn well. Yn enwedig os ydych yn ffan o fwyd a diod crefftwyr ar raddfa fach, a chogyddion sy'n ymroddedig i arddangos dim ond y gorau ar eu bwydlenni.
Ond nid dim ond y bwyd a'r diod sy'n bwysig. Gyda dros 1,000 o filltiroedd o lwybr cyhoeddus, rhwydwaith llwybrau beicio gwych a thirwedd wedi ei ffurfio gan ddŵr mae digon o ffyrdd i chi greu chwant bwyd. Crwydrwch ein bryniau a'n dyffrynnoedd, nofiwch yn wyllt neu ganŵio yn ein hafonydd a'n llynnoedd, ewch ar daith tuk-tuk o'n gwinllannoedd, ac ewch i ymweld â'n trefi marchnad llawn cymeriad yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy a'r pentrefi gwledig fel Tyndyrn, yr em sydd yng nghoron Dyffryn Gwy. Fe gewch chi'ch synnu faint sydd gan Sir Fynwy i'w gynnig.
O, a rhag ofn eich bod dal yn pendroni, mae Sir Fynwy wedi'i lleoli wrth y fynedfa i Dde Cymru, ar ochr Gymreig Pontydd Hafren.
Rydym am i chi fwynhau eich amser yma, ond gofynnwn i bawb sy'n teithio i Sir Fynwy, ac o amgylch y sir, i barchu ein cymunedau lleol a chefn gwlad hardd. Ymunwch â ni a'r llu o bobl sydd wedi gwneud eu haddewid i Gymru - i ofalu am ein cymunedau a gwarchod ein tir anhygoel - cyn i chi gyrraedd.
Mwynhewch ein cefn gwlad. Yn ddiogel.
Am ymweliad diogel a phleserus â'n safleoedd cefn gwlad, ac ar hawliau tramwy cyhoeddus, dilynwch y canllawiau hyn:
Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid
Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi'n byw gyda nhw Symptomau’r Coronafeirws
Byddwch yn barchus o ofod pobl eraill ac arhoswch yn ddiogel mewn mannau fel pontydd, giatiau moch, neu gamfeydd, nes ei bod yn ddiogel i chi barhau ar eich taith gerdded;
Peidiwch â gadael sbwriel - byddwch yn barod i fynd â'ch sbwriel adref gyda chi i ailgylchu neu waredu
Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn
Os yw ein meysydd parcio'n llawn neu'n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos
Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio fel y gall eraill fynd a dod yn ddiogel.
Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat ac mewn rhai achosion mae ffermydd ar waith yn agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, dilynwch y cod cefn gwlad, cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a pharhau i ddilyn y cyfyngiadau a'r mesurau sydd ar waith i'ch diogelu chi ac eraill.
Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.
Mae gwybodaeth am lwybrau a hyrwyddir yn lleol ar gael yma.
Byddwch yn gall gyda’ch antur
Mwynhewch amser hamdden awyr agored egnïol wrth gadw at ymbellhau cymdeithasol da bob amser
Gofynnwch 3 chwestiwn i chi'ch hun cyn i chi gychwyn:
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar hamdden awyr agored egnïol diogel, ewch i wefan AdventureSmart.
Toilets and carparks
Toiledau a meysydd parcio
Edrychwch ar leoliadau toiledau cyhoeddus yn yr ardal yma.
Gallwch weld rhestr o'r holl feysydd parcio sydd dan berchnogaeth Cyngor Sir Fynwy yma.
Os ydych yn teithio i Ben-y-fâl, parciwch ym maes parcio Fairfield yn y Fenni. Cost parcio yn Fairfield yw £1 drwy'r dydd ar ddydd Sul.