I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Natur a Bywyd Gwyllt > Fforio yn ystod y gwanwyn
Yn ôl y fforiwr proffesiynol Chloé Newcomb Hodgetts, Sir Fynwy yw un o'r ardaloedd gorau ar gyfer chwilota yn y DU gyfan. A dylai Chloé wybod - mae hi'n fforio bob dydd yn y sir hardd mae hi bellach yn ei galw'n gartref. Fe wnaethom ddal i fyny gyda'r 'llysgennad bwyd gwyllt' hwn yn ystod y Gwanwyn, i ddarganfod mwy am ei hangerdd gydol oes dros natur a'i busnes fforio llwyddiannus, Gourmet Gatherings.
(Chloé Newcomb Hodgetts)
C. Sut a phryd wnaethoch chi ddechrau fforio?
A. Fel plentyn, teithiais ledled y byd gyda fy nheulu, ac roeddwn wrth fy modd yn archwilio'r bywyd gwyllt lleol. Dan arweiniad fy nhad, mwynheais fforio mewn pyllau glan môr, am fadarch, pysgota plu a physgota’r cefnfor. Ysbrydolodd saffaris ac ymweliadau llwythol fi i wneud gradd mewn Astudiaethau Affricanaidd a Swahili, ac yna arweiniodd fy nghariad at y môr i fi wneud gradd arall mewn Sŵoleg Dyfrol, a oedd yn cynnwys cyfnod o ymchwil yn y Caribî. Arhosais yn y Caribî am 15 mlynedd arall, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnes i ymchwil tuag at PhD mewn Ecoleg Gemegol, dysgais Sŵoleg Infertebratau Morol, ac roeddwn yn berchen ar far coctels a thapas ar stiltiau dros y dŵr mewn bae hardd. Yn ystod y cyfnod yn byw yn y Caribî, roeddwn yn mwynhau dysgu am blanhigion meddyginiaethol gan bobl leol oedrannus, adeiladu potiau pysgod o ffyn, pysgota gwaywffon a dal crancod ac octopws wrth wisgo snorcel!
(Ffenigl y Môr yn Sudbrook)
C. Sut ydych chi'n darganfod y mannau fforio gorau yn Sir Fynwy?
A. Ar ôl dychwelyd i'r DU, ymgartrefais yn Sir Fynwy a chefais y lwc dda i gwrdd â'r fforiwr arbenigol y diweddar Henry Ashby enwog. Yn ŵr lleol ac â gwybodaeth aruthrol am ymborth gwyllt, cymerodd Harri â mi o dan ei adain, fel prentis. Rhoddodd ei arbenigedd i mi am fwydydd gwyllt a'u defnydd, a'r mannau casglu gorau yn lleol. Henry oedd y sbardun a'm galluogodd i ddod yn fforiwr proffesiynol, ac rwy'n angerddol am barhau â'i etifeddiaeth.
Fel fforiwr rydych yn dysgu adnabod potensial cynefinoedd; rwy'n mynd i chwilio am yr amgylchedd cywir yn hytrach na rhywogaeth benodol. Rwyf wedi dod o hyd i fannau fforio newydd trwy gerdded llawer iawn o filltiroedd ar droed, yn aml yn archwilio tir am hyd at wyth awr y dydd. Mae dod o hyd i fan ffrwythlon newydd yn gyffrous iawn - fel dod ar draws rhewyn gyda mynediad i'r aber, lle nad oes neb byth yn cerdded. Rwyf wedi dod o hyd i ymborth hyd y gwêl llygad, yn y fath helaethrwydd mae'n edrych fel eu bod yn cael eu tyfu fel cnwd amaethyddol!
(Egroes ar lannau Aber Afon Hafren)
C. Beth yw'r amser gorau o'r flwyddyn i fforio yn Sir Fynwy?
A. Ceir ymborth gwyllt yn y sir fywiog hon 365 diwrnod y flwyddyn. Wrth i un rhywogaeth ymborth bylu, mae un arall yn ymddangos. Mae Mam Natur yn darparu pantri gwyllt maethlon trwy gydol y flwyddyn. Efallai y bydd pobl yn cysylltu fforio ag amser cynhaeaf – diwedd Haf a'r Hydref – pan fo digonedd o ffrwythau a ffyngau, ond heb os y gwanwyn yw pan fydd rhai o’r llysiau gwyrdd mwyaf tyner a blasus yn doreithiog. Hyd yn oed yn y gaeaf, gellir dewis digon o ymborth gwyllt, fel Milddail, Bresych Gwyllt, Ffenigl y Môr, Croeslys, Bwydlys y Mynachod a Garlleg Trionglog.
(Madarch Cwpan Robin Goch)
C. Beth ydych chi'n gobeithio ei ddarganfod pan fyddwch chi'n mynd i fforio yn y gwanwyn?
A. Yn y gwanwyn byddaf yn fforio ar hyd Aber Afon Hafren yn bennaf, lle gallwch ddod ar draws sbectrwm o dros 50 o rywogaethau ymborth fel Sbigoglys Gwyllt sy'n anhygoel o doreithiog, yn ogystal â Ffenigl y Môr, Rhuddygl Môr, Serenllys y Morfa aromatig, Llyriad y Môr a Llysiau’r Llwy blas mwstard. Mewn gwrychoedd ac ymylon cyfagos, mae llysiau gwyrdd salad a llysiau fel Sbrigau Hopys, Ffacbys, Dant y Llew, Milddail, Ceinioglys, Mantell Fair, Briwydd Wen, Garlleg Gwyllt, Winwns a Chennin a Mwstard Garlleg sbeislyd. Yn y cyfamser, mae'r dolydd yn frith o Fresych Gwyllt, Suran, Sbrigau Efrllys a Ffedog y Forwyn. Mae'n adeg heriol o'r flwyddyn, ac yn rheswm gwych dros fynd allan a mwynhau’r awyr iach nawr bod y Gaeaf wedi mynd heibio.
(Ymborth salad y gwanwyn)
C. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'r ymborth rydych chi'n eu dewis?
Mae gen i archebion rheolaidd gan fwytai seren Michelin a chleientiaid eraill felly rwy'n fforio bob dydd i sicrhau bod y cogyddion a'r distyllwyr yn derbyn y cynnyrch ar ei fwyaf ffres. Yn amlwg, rwy'n dewis eitemau i mi fy hun a gwesteion hefyd. Rwy'n awyddus i arbrofi gyda chynhwysion gwyllt, a chreu prydau arloesol i westeion yn fy nhaith Fforio a Gwledda Diwrnod Cyfan, sy'n cynnwys bwydlen blasu bwyd gwyllt o ddeg pryd o leiaf.
Dwi wrth fy modd yn mynd ag ymwelwyr allan yn fforio; maent yn rhyfeddu at yr hyn sydd o'u cwmpas yng nghefn gwlad. Byddaf yn adnabod y rhywogaeth, yn dangos iddynt sut i'w dewis, ac yn awgrymu ffyrdd o'i ddefnyddio, yna efallai y bydd ymwelwyr yn casglu rhai i fynd adref. Er enghraifft, mae'r blodau Hocys porffor cryf, sy'n dechrau blodeuo ddiwedd y gwanwyn, yn ychwanegu lliw hyfryd i salad. Os ydych yn ysgeintio rhai â siwgr, mae'r siwgr yn troi'n binc llachar - sy’n wych i blant taenu ar gacennau cwpan neu i oedolion defnyddio ar ymylon gwydr coctel!
(Blodau Hocys)
C. Pa fathau o brofiadau chwilio ydych chi'n eu cynnig i ymwelwyr?
Yn arbennig o boblogaidd gyda phobl sy'n newydd i fforio, yw’r daith Fforio’r Aber, Meysydd a Gwrychoedd sy'n para 1½ awr ac sy’n digwydd trwy gydol y flwyddyn. Rwy'n arwain taith dywys ar hyd Aber Afon Hafren gyfoethog a bioamrywiol ger Cas-gwent, gan nodi tua 30 o rywogaethau ymborth. Gall gwesteion ddewis rhai samplau i'w cymryd adref a'u mwynhau.
Ar y daith Fforio a Gwledda Diwrnod Cyfan (sydd ar gael rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd), rydym yn dewis amrywiaeth eang o ymborth o fwy nag un safle, gan gynnwys coetir ac arfordir hynafol. Rydyn ni'n gwledda gyda'n gilydd yn yr awyr agored – cymysgedd o ymborth rydyn ni newydd ei gasglu a phrydau bwyd gwyllt rydw i wedi'u paratoi o flaen llaw. Fel arfer, rwy'n gweini o leiaf ddeg o brydau, rhai yn defnyddio cynhwysion yr wyf wedi'u cadw yn ystod y flwyddyn, fel Rhosod Llarwydd wedi'u piclo sydd fel caprys lemwn, neu ffyngau’r goedwig yr wyf wedi'u sychu i'w hychwanegu at gacennau crwst a chawliau blasus. Edrychwch ar y fwydlen sampl hon llawn pethau blasus. Wrth gwrs, gall ymwelwyr hefyd ddewis llond llaw o ymborth i gymryd adref.
Yn yr hydref, rydym yn crwydro drwy goetiroedd a dolydd cyfoethog ar daith Fforio Madarch, gan nodi a chynaeafu madarch gwyllt gorau'r DU. Mae'n bosibl iawn y byddwn yn dod o hyd i’r Wicsen Gron (Porcini), Chanterelle, Ysgwydd Felen, Boletau, Twyllwr Gloyw, Pigau Draenog, Wystrysen y Coed, Capiau Cwyr, Madarch Maes a mwy!
(Gwledd Fforio)
C. Pa mor hygyrch yw'r llwybrau fforio rydych chi'n eu dilyn?
A. Mae’r daith Fforio’r Aber, Meysydd a Gwrychoedd yn addas i bawb, ac yn hygyrch i sgwteri a chadeiriau olwyn. Hyd yn hyn, fy fforiwr ieuengaf oedd 4 wythnos oed a'm hynaf oedd 87 oed. Gall dau blentyn dan 14 oed ddod i fforio am ddim gydag oedolyn sy'n talu, ac mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd.
(Chloé a'i chi gyda garlleg gwyllt)
C. Pa ryseitiau allwch chi eu hargymell, gan ddefnyddio bwydydd sy'n cael eu fforio yn y gwanwyn?
Mae Garlleg Gwyllt yn gwneud pesto gwych. Weithiau byddaf yn defnyddio olew cnau Ffrengig neu olew cnau cyll yn lle olewydd, ac yn defnyddio cnau gwyllt yn lle cnau pinwydd. Mae Garlleg Gwyllt yn tyfu mor helaeth, rwy'n aml yn gwneud sypiau enfawr ac yn ei rewi i'w fwynhau trwy gydol y flwyddyn.
Gellir mwynhau llawer o lysiau’r gwanwyn yn amrwd, felly nid oes byth esgus dros salad diflas. Mae llysiau fel Sbigoglys Gwyllt, Sbrigau Hopys a Sbrigau Efrllys i gyd yn faethlon iawn ac yn llawn blas, felly dwi'n eu ffrio’n syml mewn menyn. Er mwyn cael y gorau o Ffenigl y Môr, rwy'n aml yn ei biclo, fel yr oeddent yn arfer ei wneud yn yr 16eg a'r 17eg ganrif. Rhowch rywfaint ar ben focaccia ychydig cyn i chi ei bobi, ac mae'n ychwanegu blas moron hyfryd.
Mae Llysiau’r Llwy yn blasu'n union fel Mwstard Colman ac mae ganddo chwe gwaith yn fwy o fitamin C na sydd gan oren, fesul gram. Mae'n flasus iawn wedi'i ychwanegu at frechdan bacwn!
C. Beth yw'r rhannau gorau a'r agweddau mwyaf heriol ar eich swydd fel fforiwr proffesiynol?
A. Heb os, y rhan orau yw ymgolli mewn natur bob dydd – mae'n wefreiddiol. Dwi hefyd wrth fy modd yn rhannu fy myd ymborth gwyllt gydag eraill - mae'n bleser gweld eu cyffro a'u syndod pan maen nhw'n blasu deilen ac yn cael eu syfrdanu gan y blasau! Yr her i mi yw cydbwyso gweinyddiaeth swyddfa’r busnes, gyda'r awydd i fynd allan ac archwilio.
(Ffyngau’r goedwig)
C. Beth sydd nesaf i Gourmet Gatherings?
A. Rwyf wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau cysylltu â natur, ac rwy’n frwd iawn am y bartneriaeth sydd gen i â Penhein Glamping - iyrtiau moethus ar safle godidog wrth ymyl coetir hynafol Coedwig Wentwood. Rwy'n mynd â'u gwesteion i fforio, ac rydym yn coginio gyda'n gilydd dros dân agored.
Pryd bynnag y bydd gen i foment sbâr, rwy'n hoffi ysgrifennu, ac mae gen i ddau lyfr ar y gweill - mae un yn ryseitiau fforio a'r llall yn llyfr stori chwilota i blant.
Rwyf newydd lansio Profiad Distyllu Gin, mewn partneriaeth â Silver Circle Distillery yn Nyffryn Gwy. Ar ôl fforio ar hyd Aber Afon Hafren am gynhwysion gwyllt tymhorol gyda phroffiliau arogl sy'n berffaith ar gyfer gwneud gin, rydym yn gyrru i'r distyllfa arobryn. Yno, cewch eich cyfarch â gin a thonig, cyn dysgu sut i greu rysáit gin gwreiddiol a blasus, yn eich distyll-lestr copr bach eich hun. Yn olaf, rydych chi'n cymysgu, mesur a photelu'ch creadigaeth 70cl unigryw i fynd adref a mwynhau. Y ffordd berffaith o gofnodi eich atgofion o Sir Fynwy.