Caiff rheolaeth y gyrchfan ar gyfer ymwelwyr ei llywio gan Gynllun Rheoli Cyrchfan strategol Sir Fynwy. Caiff y cynllun presennol ei adolygu a’i ddiwygio i helpu sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda diben newydd o “dyfu twristiaeth er budd pobl, amgylchedd a chymunedau Sir Fynwy”. Mae hyn yn ei alinio gyda’r strategaeth twristiaeth newydd ar gyfer Cymru sydd â mwy o bwyslais ar ddatblygiad economaidd cynaliadwy a chyflwyno nodau llesiant ehangach (iechyd, diwylliannol ac amgylcheddol) i bawb sy’n ymweld, byw, gweithio ac astudio yng Nghymru, ynghyd â thwf economaidd.
Dynodwyd mae’r heriau penodol sy’n wynebu’r gyrchfan yn dilyn y pandemig yw:
- Adfer lefelau twristiaeth 2019 erbyn 2023 (targed Visit Britain)
- Cynnal lefelau uchel o alw pan fydd teithio tramor o Brydain yn cynyddu
- Cynnal lefelau uchel o fodlonrwydd ymwelwyr, tebygolrwydd ymweliadau dychwel ac argymell drwy sicrhau fod ymwelwyr yn parhau i gael profiad cadarnhaol yn y gyrchfan
- Rheoli’r gyrchfan yn effeithlon er budd yr holl randdeiliaid, yn cynnwys preswylwyr – i sicrhau cefnogaeth gan y gymuned gartref ar gyfer twristiaeth
- Cynyddu arenillion ymwelwyr drwy drosi rhai o’r ymwelwyr dydd presennol yn ymwelwyr aros a chynyddu capasiti stoc gwelyau llety â gwasanaeth Sir Fynwy
- Dosbarthu manteision twristiaeth yn fwy gwastad ar draws y sir a’r flwyddyn
- Diogelu a chyfoethogi asedau cyrchfan (gan dargedu segmentau ymwelwyr cyfrifol arenillion uchel) a datblygu profiadau newydd ansawdd uchel fydd yn apelio at y gynulleidfa hon
- Gostwng adleoli twristiaeth i sicrhau’r buddion mwyaf i gymunedau lleol drwy annog ymwelwyr (a busnesau economi ymwelwyr) i wario mwy o arian gyda busnesau annibynnol lleol.
Mae’r Cynllun newydd yn rhoi cyfle i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i weithio mewn partneriaeth i gyflenwi twf twristiaeth cynaliadwy i bob rhan o’r sir.
Lawrlwytho Cynllun Rheoli Cyrchfan 2017-2020 Sir Fynwy
Partneriaeth Cyrchfan Sir Fynwy
- Diben y Bartneriaeth, aelodaeth a dolenni i agendâu a chofnodion cyfarfodydd.
Gwybodaeth Cyrchfan
- Ffeithiau, ffigurau a chanlyniadau arolygon i lywio datblygu a marchnata cyrchfan (a busnesau).
Cymorth Busnes Twristiaeth
- Manylion y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i fusnesau twristiaeth Sir Fynwy