I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Grwpiau
Eich taith berffaith, wedi'i theilwra. Mwynhewch un o'n teithiau parod neu gallwn helpu i greu un pwrpasol i chi.
Yn gorwedd rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, bydd y dirwedd drawiadol yn eich syfrdanu. Felly hefyd bydd y cestyll mawreddog, yr awyr serennog dywyll, y bwyd gwych a’r golygfeydd o’ch amgylch.
Wedi'i leoli ar ffin Cymru / Lloegr cafodd yr ardal hon nifer o frwydrau ffyrnig ar un adeg. Diolch byth, mae'n fwy heddychlon heddiw er bod atgofion o'r brwydrau hynny'n aros, gyda naw castell ledled tirwedd fryniog y sir.
Mae digon o adeiladau hanesyddol eraill, ac mae pob un ohonynt yn croesawu grwpiau. Mae’r rhain yn cynnwys adfeilion rhamantus Abaty Tyndyrn a Neuadd y Sir yn Nhrefynwy a adferwyd. Ni allwch ymweld â'r ardal hon heb flasu rhai o fwyd a diod gorau Cymru nac ymweld ag un o'n pedair gwinllan, dau ficro-fragdy a pherllannau seidr.