I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Gwyliau Gwyrdd > Bwydydd a diodydd cynaliadwy
O siopau dim gwastraff a bwydlenni cyfeillgar i feganiaid, i goffi Masnach Deg a chynnyrch a dyfwyd yn lleol, dyma rai o fusnesau bwyd a diod Sir Fynwy sy’n ymroddedig i gynnig cynnyrch blasus tra’n gofalu am y blaned.
Siopau dim gwastraff
(Just Weigh Brynbuga - Kacie Morgan, The Rare Welsh Bit)
Mae Wye Weight yn Nhrefynwy yn ymfalchïo mewn gwerthu dewis cyffrous o gynnyrch lleol, ail-lenwi bwydydd a deunyddiau glanhau ac amgennau di-wastraff a di-blastig sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Galwch heibio am goffi a theisen i fynd mas neu snac blasus o’u bar salad. Os nad ydych yn yr ardal am hir, archebwch o’u siop ar-lein.
Wedi’i sefydlu dan ddwy fam leol o ddifri am ostwng gwastraff plastig, Little Green Refills yn y Fenni yw’r lle i ail-lenwi eich cynwysyddion gyda chynnyrch masnach deg ar gyfer y pantri, nwyddau ymolchi ac eitemau i’r cartref. Ond mae’n llawer mwy na dim ond gofod manwerthu: dewch i ymlacio yn y caffe, ymuno â dosbarth yoga neu deimlo manteision sesiwn gyda’r ymarferwyr gofal iechyd ategol sy’n seiliedig yno.
Mae Just Weigh Brynbuga hefyd yn gweithio i ddweud ffarwel wrth blastig un defnydd yn eu siop yng Nghanolfan Arddio Willows ym Mrynbuga.
Mae Tell Me Wine Cas-gwent yn gwerthu gwin, olew’r olewydd a finegr rhagorol mewn poteli i gael eu hail-lenwi. Unwaith y byddwch wedi mwynhau’r cynnwys, dewch â’ch potel yn ôl i’w hail-lenwi dro ar ôl tro. Gellir prynu coffi (ffa neu fâl) wrth y bag – neu dewch â’ch jar eich hun gyda chi. Mae hefyd yn far coffi cyfeillgar gyda thameidiau i’w bwyta a tapas, a dewis rhagorol o ddiodydd eraill gan gyflenwyr lleol Wye Valley Meadery ac Untapped Brewing Company.
Siopau fferm, cigyddion a marchnadoedd
(Neuadd Marchnad y Fenni - Tim Woodier ar gyfer Gŵyl Fwyd y Fenni)
Fel sir wledig gyda llawer o ffermydd a chynhyrchwyr graddfa fach, ni fydd yn rhaid i chi edrych ymhell i ddod o hyd i gigydd neu siop fferm. Gofynnwch i’ch gwerthwyr arbenigol ddweud wrthych o ble y daw eu bwyd – a byddant yn falch iawn i rannu eu gwybodaeth gyda chi. Galwch heibio’r gwneuthurwyr selsig arbenigol Rawlings and Beavan Family Butchers yn y Fenni, N D Lewis & Son ym Mrynbuga a Trim’s Town Gate Butchery yng Nghas-gwent lle bydd staff yn falch i roi yr eitemau a brynwch yn eich cynwysyddion eich hun. Mae N S James & Son yn Rhaglan wedi ennill gwobrau ac maent yn gwerthu cigoedd a laddwyd yn lleol, yn cynnwys rhywogaethau prin. Daw’r holl gig o’r ardal leol, heb i unrhyw anifail fod wedi teithio mwy na 20 milltir.
Yn Neil Powell Master Butchers gallwch ddisgwyl dewis eang o gigoedd o gyflenwyr lleol a chownter yn gwerthu cynnyrch cig twym parod i fynd. Mae ganddynt siopau yn y Fenni, Trefynwy a Siop Fferm Newhall ger Cas-gwent – lle, gyda llaw, gallwch brynu popeth y byddwch ei angen ar gyfer eich pryd nesaf. Mae’n bleser pur i brynu cynnyrch yma, a hefyd yn Morris’ Food Hall yng Nghanolfan Arddio Brynbuga, Raglan Farm Park a’r Square Farm Shop yn Llanfihangel Troddi. Ewch i’n marchnadoedd lleol i gael cyfoeth o gynnyrch lleol gyda chyn lleied ag sydd modd o ddeunydd parcio, gwerth gwych a phobl leol gyfeillgar i gael sgwrs gyda nhw.
Diodydd gyda blas lleol
(Llun Kacie Morgan, The Rare Welsh Bit)
Mae Silver Circle Distillery yn cynhyrchu jin gyda blasau neilltuol, yn cynnwys Wye Valley Gin gyda llysieuegon lleol a Catbrook Honey Gin sy’n cynnwys mêl o Sir Fynwy. Ym Mragdy Kingstone yn Nhyndyrn, caiff cwrw ei fragu a’i botelu â llaw, a gallwch fynd tu ôl i’r llenni gyda thaith o’r bragdy. Perllan ellyg hynafol a nodweddion unigryw mathau lleol o afal yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i Three Saints Cider and Perry, sy’n seiliedig ger Brynbuga. Mae eu finegr seidr yn helpu The Preservation Society i wneud jam blasus Very Chill.
Byw yn y wlad
(Wyneb siop Bees for Development - Kacie Morgan, The Rare Welsh Bit)
Os oes gennych ddiddordeb mewn coginio a bwyta’n fwy cynaliadwy, bydd Abergavenny Baker yn eich ysbrydoli. Mae ‘Bara, Ffa a Llysiau Gwyrdd Tymhorol’ yn ddosbarthiadau gwneud bara sy’n paru ffa diddorol gyda ffa a wneir o hen rawn fel gwenith yr Almaen, kamut ac emer. Mae danteithion hefyd ar gael ar y cwrs gwneud seidr yn Kate’s Country School a’r cwrs pobi Nadolig a chadwolion yn Humble By Natur
Mae Gwenynfa a Chanolfan Astudio Holden ger y Fenni yn cynnal sesiynau blasu ar gadw gwenyn, ac mae The Bee Shop yn Nhrefynwy yn dathlu gwenwyn. Mwynhewch fêl o wahanol rannau o Sir Fynwy, canhwyllau a chynnyrch gofal croen a wnaed yn lleol, neu brynu’r holl offer y byddwch ei angen i gadw gwenyn!
Bydd The Crafty Pickle yn eich cyflwyno i fyd eplesu gyda dosbarthiadau yn sut i wneud sauerkraut, kimchi a kombucha. Yn ogystal â defnyddio eu cynnyrch dros ben i wneud cynnyrch fegan amrwd maent hefyd yn cyfrannu canran o’u gwerthiant i Fare Share, rhwydwaith elusennol sy’n gweithio i ostwng tlodi tanwydd a gwastraff bwyd.
Tamaid i’w fwyta
(Madame Fromage - Kacie Morgan, The Rare Welsh Bit)
Galwch yn The Gardeners’ Kitchen yn Llanofer i gael gwledd o gynnyrch tymhorol. Mae’r siop fferm, deli a chaffe yma’n gwerthu ffrwythau a llysiau a dyfant yn eu gardd furiog dwy erw. Mae’r rhan fwyaf o’r bwydydd a diodydd yn The Pig and Apple yn fferm Kate Humble yn rhai lleol ger Trefynwy ac mae’n cynnig detholiad gwych o fyrgyrs dim glwten, fegan a llysieuol. Mae Creates Monmouth – a caffe, bistro a gwely a brecwast a enillodd raglen deledu ‘Four in a Bed’ Channel 4 – yn cynnwys brecinio, cinio a bwydlenni min nos gyda dewisiadau dim glwten, fegan a llysieuol.
Mae cawsiau lleol ar gael yn y detholiad enfawr sydd ar gael gan Madame Fromage yn y Fenni a The Marches Delicatessen yn Nhrefynwy, ac mae gan y ddau gaffe cyffrous. Mae Essie Bun, ystafell te ym Mrynbuga, yn pobi teisennau ffres bob dydd, yn cynnwys opsiynau fegan a llysieuol, ac yn gwneud canhwyllau, goleuadau te a thoddion cwyr soy eco. Yn y Raglan Country Estate ysblennydd, mae’r bwyty a’r caffe pryd ar glud yn gweini cynnyrch ethnig o ffermydd a chyflenwyr lleol. Mae cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys plannu coed, ailwylltio, ffermio fertigol a chyrchu popeth o’r stad ei hun neu o fewn pum milltir.
Cyn i chi fynd allan am y dydd, lawrlwythwch yr ap Refill am ddim fel y gallwch gael mannau ail=-lenwi ar drws Sir Fynwy lle medrwch lenwi’r poteli dŵr. Mae dŵr Cymru yn amheuthun, a byddwch yn helpu Cymru i ddod y Genedl Ail-lenwi gyntaf.
Edrychwch ar ein dewis llawn o leoedd i fwyta ac yfed i weld mwy o leoedd sy’n dod â dŵr i’r dannedd yn Sir Fynwy.