"Mae eirlysiau’n arwydd hyfryd bod dyddiau mwy disglair yn dod. Maen llawenydd llwyr i’w gweld - yn codi ein hysbryd yng nghefn gaeaf". Dyna pam mae'r blodau cain hyn yn ymddangos mor amlwg yng ngardd 3 erw’r artist a'r cerflunydd Gemma Kate Wood yng Ngardd Gerfluniau Dyffryn Gwy yn Nhyndyrn.
Yn awyddus i rannu llawenydd y blodau bach hyn, mae Gemma yn agor ei gardd ar benwythnosau dethol ddechrau mis Chwefror. Mae amrywiaeth syfrdanol o dros 70 math o eirlysiau wedi'u plannu yn yr ardd, ac mae tua 30 math ar gael i'w gwerthu.
Mae stori'r ardd yn mynd yn ôl i'r 1950au, pan sefydlodd ei fam-gu a’i thad-cu deiliadaeth fach a redir yn organig ar y safle llethr hwn yn Nyffryn Gwy. Mae'n parhau i fod yn fusnes teuluol: Mae rhieni Gemma, Elsa ac Adrian, a aeth ati i blannu’r eirlysiau bedwar degawd yn ôl, yn helpu gyda'r cynllunio, lluosogi, gwneud compost, torri gwair a chwynnu.
Yn ogystal â garddio, mae'r artist Gemma yn rhoi ei holl egni creadigol i’r cerflunwaith, ffotograffiaeth, paentio a gwaith gwydr - i gyd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y dirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'i cherfluniau wedi'u gwneud o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd o'r tir hwn, a'u creu wedyn yn ei stiwdio gardd. Bellach yn nodwedd annatod o'r ardd, mae ei cherfluniau i’w gweld ledled yr ardd; dilynwch lwybr y Cod QR i ddarganfod mwy am waith Gemma.
Mae'r "ardd organig hon sy'n dathlu planhigion, celf a bywyd gwyllt" yn fan perffaith ar gyfer myfyrio tawel a gwerthfawrogiad o'r byd naturiol. Cafodd Wordsworth, a ddisgrifiodd yr eirlys fel "rhagflaenydd y gwanwyn", ei swyno gymaint gan "dirwedd fugeiliol werdd" Dyffryn Gwy pan ymwelodd â hi ym 1798, nes iddo ei chipio yn ei gerdd “Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey”. Y llu o eirlysiau hyfryd yng Ngardd Gerfluniau Dyffryn Gwy yw’r rheswm perffaith i ymweld yno yn ystod gwanwyn eleni. Byddwch hefyd yn gweld eirlysiau ar Lwybr Dyffryn Gwy rhwng Redbrook a Whitebrook, ac ar gylchdaith 7.5 milltir Taith Gerdded Cleidda a Choed y Bwnydd ger Rhaglan.
Mae arwyddion o'r gwanwyn yn ymddangos ar hyd a lled Sir Fynwy. Mae llawer o'n hen fynwentydd eglwysig yn cael eu rheoli gyda bywyd gwyllt mewn golwg, felly cewch eich cyfarch gan gân adar siriol a lliw blodau yma ac acw - briallu, blodau’r gwynt, briallu Mair sawrus. Am arddangosfa ysblennydd o gennin Pedr, ewch am dro o amgylch mynwent Hen Eglwys Penallt, ger Trefynwy. Mae Coed y Priordy, coetir hynafol ger Brynbuga, yn arddangos sioe ysblennydd o dafol y mynydd, clychau'r gog a garlleg gwyllt.
Os ydych yn cael eich temtio i geisio tyfu ychydig o bethau eich hun, ewch i gegin y garddwyr yn Llanelen, lle mae gan Amy a Simon silff yn llawn hadau y maen nhw wedi'u harbed o'r cnydau maen nhw'n eu tyfu yn eu gardd farchnad. Fe'ch gwahoddir i helpu eich hun i'r mathau diddorol hyn, yn gyfnewid am rai o'ch hadau sbâr chi y gallai pobl eraill eu hoffi. Tra'ch bod chi yno, beth am brofi rhai o'u cynnyrch ffres gan gynnwys wyau selsig, pacora a chacennau. Yna, plannwch ac edrychwch ymlaen at gynhaeaf blasus yn ddiweddarach eleni.
Mwynhewch y fideos hyn, a gynhyrchwyd gan Gemma o Ardd Gerfluniau Dyffryn Gwy, wrth i chi gynllunio eich teithiau gwanwyn yn Sir Fynwy.
Wedi'i ddisgrifio gan lawer fel 'trysor cudd' Dyffryn Gwy.
Rhaid i absoliwt weld ar gyfer cariadon gardd a chelf fel ei gilydd.
Gardd Gerfluniau Dyffryn Gwy yw creu'r artist Gemma Kate Wood, y mae hi wedi'i adeiladu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae'r ardd wedi tyfu'n lleoliad hardd sy'n cynnal ei chasgliad o gerfluniau ac yn gyffrous, gwaith 23 o artistiaid eraill i greu Arddangosfa Cerfluniau'r Haf.
Hen Eglwys Penallt yw'r adeilad hynaf yn y pentref. Canolbwynt y plwyf hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn aml yn addoli ynddo. I'w weld o filltiroedd o'i chwmpas mae'n lloches ysbrydol i'r plwyfolion lleol a'r nifer sy'n defnyddio'r llwybrau troed sy'n mynd drwy'r fynwent.
Abaty Sistersaidd, a sefydlwyd yn 1131 ym mhentref prydferth Dyffryn Gwy yn Tyndyrn. Ailadeiladwyd eglwys anhygoel o gyflawn yr abaty ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, gydag olion helaeth o adeiladau clostir a mynachaidd cysylltiedig.