I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Ffilm a Theledu yn Sir Fynwy
Bu tirlun gwledig Sir Fynwy yn gefnlen ar gyfer ffilmiau poblogaidd iawn fel Captain America a chyfresi poblogaidd y BBC yn cynnwys Doctor Who. Mae Sir Fynwy hefyd yn cael sylw yn gyson ar raglenni teledu poblogaidd fel Countryfile, Escape to the Countryside, Escape to the Farm with Kate Humble, a Gardeners’ World.
Bu Stiwdios Rockfield ger Trefynwy yn destun rhaglen ddogfen ar y BBC (yn dweud hanes dau frawd a drodd eu fferm yn Sir Fynwy yn stiwdio recordio fyd-enwog). Mae’r stiwdios hefyd yn cael sylw yn y ffilm “Bohemian Rhapsody” (ar ôl croesawu Queen, Oasis, The Stone Roses, Ozzy Osbourne a llawer mwy o artistiaid i’r stiwdio ers ei sefydlu yn y 1960au).
Cafodd addasiad ffilm “Resistance” gan Owen Sheers ei gosod yn ardal anghysbell ac odidog Dyffryn Ewyas ac mae cynhyrchiad “Sex Education” mwy diweddar Netflix yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau prydferth yn Nyffryn Gwy. Yn ddi-os Fforest y Ddena gerllaw yw’r Puzzlewood hudolus yn ffilm Star Wars “The Force Awakens” 2017.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn ffilmio yn Sir Fynwy, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ffilmio/.