I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Ffilm a Theledu yn Sir Fynwy > Rockfield – y stiwdio ar fferm
Roedd Fferm Rockfield i ddechrau yn eiddo yr Arglwydd Llangattock a’i deulu (yn cynnwys Charles Rolls o gwmni Rolls-Royce). Cafodd rhannau o’r stad eu gwerthu dros y blynyddoedd yn cynnwys Amberley Court yn 1958, a fyddai’n dod yn nes ymlaen yn stiwdios eiconig Rockfield.
50 mlynedd yn ôl roedd y brodyr Charles a Kingsley Ward yn dechrau gweithio ym musnes gwartheg llaeth y teulu, ond cerddoriaeth oedd eu prif ddiddordeb ac fe wnaethant ffurfio eu band eu hunain. I osgoi gorfod teithio yn rheolaidd i Lundain i recordio (roedd hyn cyn adeiladu’r traffyrdd!), fe wnaethant greu eu stiwdios eu hunain ar y fferm gan ddenu sylw cerddorion o bob rhan o’r byd mewn dim o dro. Oherwydd ei lleoliad anghysbell, byddai cerddorion yn aros yn y ffermdy pan oeddent yn recordio, gan droi Rockfield yn stiwdio recordio breswyl gyntaf y byd.
Recordiodd artistiaid enwog yma dros y blynyddoedd yn cynnwys Queen (ddwywaith, yn cynnwys ‘Bohemian Rhapsody’ fel y gwelwyd yn y ffilm ddiweddar), Rush, Black Sabbath, Motorhead, Simple Minds, The Stone Roses, Oasis (pryd y dywedwyd i Noel Gallagher ddwyn peiriant dyrnu!), Coldplay, the Manic Street Preachers, Suede, Kasabian, The Pixies and a llawer llawer mwy.