I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Archwiliwch Sir Fynwy > Cil-y-coed
Wedi'i leoli ger yr arfordir rhwng y ddwy bont dros afon Hafren, mae'n debyg bod ei enw Saesneg, sef 'Caldicot', yn deillio o 'calde' Hen Saesneg sy'n golygu “oer”, yna 'cot' sy'n golygu “bwthyn / lloches”.
Mae Cil-y-coed wedi bod yn bwynt cludo pwysig erioed. Roedd ar y ffordd Rufeinig o Gaerloyw i Gaerllion, a dyna pam y tyfodd Venta Silurum (Caer-went) gerllaw, yr anheddiad sifil mwyaf yng Nghymru Rufeinig, lle heddiw gallwch weld rhai o'r olion Rhufeinig sydd wedi'u cadw orau yn Ewrop.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae Castell Cil-y-coed, a sefydlwyd gan y Normaniaid ac a adferwyd fel cartref Fictoraidd. Wedi'i leoli mewn 55 erw o barcdir coediog, mae ganddo raglen ddigwyddiadau llawn dop. Ychydig i fyny'r ffordd mae'r gerddi cudd a'r grotos tanddaearol yn Llanddewi.
Peidiwch â cholli'r cyfle i godi potel neu ddwy o fedd pefriog ysgafn (tro modern ar glasur hynafol) neu gwrw Hive Mind wedi'i wneud â mêl o gychod gwenyn yn Nyffryn Gwy ym Mar Cwrw Wye Valley Meadery tra'ch bod chi yma.