Croeso i Hud a Lledrith y Gaeaf
Mae ansawdd hudolus i Sir Fynwy pan mae eira ar y tir, niwl ysgafn (neu ‘Anadl y Ddraig’ fel yr hoffwn feddwl amdano) yn yr awyr a cherfluniau coed moel ar draws ein tirwedd ac yn ein coetiroedd. Mae bob amser rywbeth i ryfeddu eto, hyd yn oed yn y glaw. Ac mae bod yn yr awyr agored yn dda i chi lapio amdanoch yn gynnes, gwisgo eich esgidiau cerdded a dilyn un o’n hoff droeon gaeaf.
Gyda rhaglen brysur o ddigwyddiadau tymhorol ar y gweill dros yr wythnosau nesaf nid oes dim prinder o bethau i edrych ymlaen atynt, yn cynnwys marchnadoedd Nadolig, pantomeimau, gweithdai crefft a digwyddiadau siopa hwyr. Llawer o gyfleoedd i brynu rhoddion unigryw gan fanwerthwyr annibynnol a chrefftwyr annibynnol ar gyfer y bobl arbennig yn eich bywyd.
Pa bynnag mor oer y bydd hi, bydd bob amser groeso cynnes yn Sir Fynwy.