I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Am Sir Fynwy > Yn addas ar gyfer Brenin
Mae Sir Fynwy wedi bod yn hen gyfarwydd gydag aelodau o’r teulu Brenhinol ers canrifoedd. O frenhinoedd Rhufeinig-Cymreig yr hen Went i fan geni Harri’r VIII yng Nghastell Trefynwy, mae’r sir yn llawn o gysylltiadau brenhinol. Tra bod digwyddiadau lleol yn ffocysu ar benwythnos arbennig gŵyl y banc, mae’r cysylltiadau brenhinol sydd gennym i’w gweld drwy gydol y flwyddyn ac mae rhai straeon arbennig i’w gweld mewn safleoedd ar draws y sir.
Y Brenin Arthur
Mae’r brenin arwrol yma a oedd yn bennaeth ar y Prydeinwyr yn cael ei gysylltu’n fwy gyda Chaerleon yng Nghasnewydd, sef hen gaer Rhufeinig sydd â’u hadfeilion yn sylfaen ar gyfer chwedlau Camelot. Ond rhaid i ni ddiolch i Geoffrey o Drefynwy am boblogrwydd Arthur a’r rôl sydd ganddo mewn chwedloniaeth.
Darllenwch mwy am Geoffrey o Drefynwy
Y Brenin Tewdrig (6ed Ganrif)
Roedd Tewdrig (a ysgrifennwyd weithiau fel Tewdrig) yn Frenin ar Went a oedd wedi ei anafu’n angheuol tra’n gorchfygu’r Sacsoniaid a oedd yn ymosod ar Bont y Saeson, ger Tyndyrn. Ar ei daith olaf, roedd nentydd wedi codi i olchi ei anafiadau ble bynnag yr oedd yn aros. Bu farw mewn lle sydd nawr yn cael ei alw’n Ffynnon Tewdrig ym Matharn. Mae Bragdy Kingstone yn Nhyndyrn wedi creu cwrw o’r enw Tewdric’s Tipple.
Ewch i ymweld â Bradgy Kingstone
Brenin Offa (8fed Ganrif)
Roedd Offa, Brenin Mersia, yn un o’r ffigyrau amlwg yn hanes Sacsonaidd, gan ymestyn ei ddylanwad i gynnwys y rhan fwyaf o Loegr, i’r de o’r Humber. Wedi ymosodiadau difaol gan y Cymry, roedd Offa wedi adeiladu wal o bridd er mwyn gosod ffin ac amddiffyn ei diriogaeth. Yn cael ei adnabod fel Clawdd Offa, mae dal yn bosib ei ddilyn ond roedd tua 27 metr o led ac 8 metr o uchder.
Rydych yn medru dilyn Clawdd Offa drwy Sir Fynwy, gan fynd â chi drwy Ddyffryn Gwy o Gas-gwent i Drefynwy, ac yna dros y sir tua’r Fenni cyn mynd tuag at y Mynyddoedd Du.
Cerddwch ar hyd Llwybr Cerdded Cenedlaethol Clawdd Offa
Dewch i ymweld â cherflun o Frenin Offa yn yr Hen Orsaf, Tyndyrn
Eleanor o Provence (1223 - 1291)
Yn chwaer ieuengaf Brenhines Ffrainc, roedd Eleanor wedi priodi’r Brenin Harri III o Loegr ac wedi cael naw o blant gydag Edward I, a oedd mor rhagweithiol yn adeiladu cestyll. Mae ei dylanwad hi, a phenseiri Ffrengig, i’w gweld yng Nghastell Grysmwnt (gyda simnai Eleanor) ac Eglwys Sain Nicolas (gyda chapel Eleanor).
Roedd ei gor-ŵyr Harri o Grysmwnt (a oedd yn un ddisgynyddion brawd iau Edward I) wedi ei eni yng Nghastell Grysmwnt. Daeth yn arglwydd cyfoethocaf a mwyaf pwerus Lloegr yn ystod teyrnasiad ei ail gefnder Edward III, ac ef oedd ail farch Urddas y Gardas (ar ôl Edward, y Tywysog Tywyll).
Ewch i ymweld â Chastell Grysmwnt
Ewch i ymweld ag Eglwys Sain Nicolas yng Ngrysmwnt
Harri’r V (1386-1422)
Ein cysylltiad brenhinol amlycaf yw Harri’r V. Rydym wedi gweld delw ohono y tu allan i Neuadd y Sir yn Nhrefynwy! Ganwyd Harri yng Nghastell Trefynwy ym 1386, a chafodd ei adnabod yn sgil hyn fel ‘Harri o Drefynwy’ gyda llawer o gyfeiriadau diwylliannol yn ei gysylltu gyda Chymru (fel yn Shakespeare) :
Dyma gyfeiriad at Sir Fynwy yn nrama Shakespeare, Henry V Act 4, Golygfa 7
FLUELLEN Your majesty says very true: if your majesties is remembered of it, the Welshmen did good service in a garden where leeks did grow, wearing leeks in their Monmouth caps; which your majesty know, to this hour is an honorable badge of the service; and I do believe your majesty takes no scorn to wear the leek upon Saint Davy's day.
KING HENRY V I wear it for a memorable honour; For I am Welsh, you know, good countryman.
FLUELLEN All the water in Wye cannot wash your majesty's Welsh plood out of your pody, I can tell you that: God pless it and preserve it, as long as it pleases his grace, and his majesty too!
KING HENRY V Thanks, good my countryman.
Mae ei ddelw (uwchben y fynedfa i Amgueddfa’r Neuadd y Sir) yn edrych dros Sgwâr Agincourt, ac mae modd i chi ddilyn llwybr ei filwyr bwâu hir Cymreig ar Lwybr Agincourt
Ewch am dro ar hyd Llwybr Agincourt
Ewch i weld tapestri Harri’r V yn Amgueddfa’r Neuadd Sir
Harri VII (1457-1509)
Roedd Harri Tudur wedi treulio ei blentyndod yng Nghastell Rhaglan, o dan gyfrifoldeb William Herbert, Iorcydd amlwg a oedd yn ceisio cyfyngu ar ddylanwad y teulu Tuduraidd Lancastraidd.
Ewch i ymweld â Chastell Rhaglan
Siarl I (1600-1649)
Roedd Siarl yn ôl pob tebyg wedi defnyddio Llys Llanfihangel o’r 15fed ganrif, ger y Fenni, fel lle i guddio yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae’r tŷ yn agor am gyfnod bob haf; mae yna baneli pren hyfryd, nenfydau plaster a grisiau anhygoel ac mae yna erddi tirlun gwych yno hefyd.
Wedi brwydr Naseby ym 1645, roedd wedi ymweld gyda Chastell Rhaglan, ac yn ystod ymweliad yn y flwyddyn ddilynol, mae’n debyg iddo chwarae gêm bowliau ar lain y castell. Mae sôn iddo ymweld hefyd gyda’r King's Head yn Nhrefynwy.