I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ble i aros > Glampio > Rhesymau dros fynd i glampio
Mae’r sêr yn disgleirio yn yr awyr dywyll, mae’r tân gwersyll yn galw – mae’n amser i fynd i glampio. Cysylltwch gyda natur ym mannau glampio gwefreiddiol Sir Fynwy. Ewch am ychwanegion moethus neu brofiad mas o’r grid. Mwynhewch chwerthin teuluoedd neu dawelwch lleoliad anghysbell.
Beth ydych chi’n edrych amdano mewn gwyliau glampio?
Enciliad Rhamantus
Cwt bugail bendigedig ac unigryw: bath deuben a gwely enfawr. Perffaith ar gyfer cerdded drwy ddolydd blodau gwyllt, diogi yn yr hamog a chwtsho lan wrth ymyl y pydew tân. Hollol ddiarffordd. Hollol hudolus
Hafan i gwpl gyda phob moethusbeth posibl: twba twym, sauna, cawod aml-jet awyr agored, hamog, pydew tân a barbeciw. Mae gan y clwstwr cytiau bugail yma gelfi hyfryd, ac mae gan bob un ardd breifat, wrth droed mynydd Ysgyryd. Galwch yn y caffe drws nesaf am frecwast blasus.
Caban Stargazer yn yr Ardd Furog Gyfrin
Mae’r caban gwledig hwn mewn gardd furog Duduraidd, ac mae ganddo ystafell wely mezzanine dan do conigol gyda phaneli gwydr – fel y gallwch edrych ar y sêr gyda’ch gilydd.. Tu fas mae ardal eistedd dawel gyda phydew tân. Gallwch gerdded i dref hanesyddol Trefynwy mewn deg munud – perffaith ar gyfer noswaith mas ramantus.
Mynd am dro o garreg y drws
Cerddwch o’r cwt bugail hyfryd hwn i ben Bryn Arw, a chewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd 360˚: Dyffryn Ewyas i’r gogledd, y Blorens i’r de, Pen-y-fâl i’r gorllewin a’r Ysgyryd Fawr i’r dwyrain. Llyfrau ar gerdded a mapiau OS ar gael i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf.
Dau gwt bugail bendigedig ar droed Ysgyryd Fawr, mynydd arbennig fu unwaith â chapel ar ei gopa. Ewch yno i weld y wawr a’r machlud ar eu gorau, ac ymlacio yn eich twba twym preifat wedyn.
Cymdeithasol
Dewch ynghyd yn y babell gymunol ar gyfer sgwrsio a gemau, neu archebu’r holl safle ar gyfer eich digwyddiad arbennig. Mae’r digwyddiadau ar y safle yn cynnwys edrych ar y sêr, byw yn y gwyllt, coginio tân gwersyll a saethu clai. Archebwch fwydydd a diodydd lleol o’u Pantri eu hunain, yn cynnwys prydau parod y gellir eu twymo ar y stôf neu bydew tân.
Blas go iawn ar fywyd gwledig. Mae gan bob lluest braf logwr coed mawr ar gyfer coginio a gwresogi, mae defaid ac alpacas yn y caeau a bydd y plant yn mynd yn wyllt yn adeiladu cuddfannau yn y goedwig ac argaeau yn y nant. Yn Kate’s Country School gerllaw, gall oedolion roi cynnig ar wneud seidr, cneifio defaid a sgiliau traddodiadol eraill.
Pump yurt Mongolaidd addurnedig iawn gyda gwelyau moethus, mewn dolydd a choetir toreithiog mewn blodau gwyllt, ffwrn pizza gymunol a barbeciw. Mwynhewch gêm o boules neu ymuno yn y sgwrs o amgylch tân y gwersyll.
Hygyrch i bawb
Ar fferm fynydd, mae’r lluestai hyn yn rhoi golygfeydd godidog o saith mynydd a Chastell Rhaglan. Wedi’u cynllunio ar gyfer gwyliau hygyrch i gadeiriau olwyn, mae gan y lluestai un llawr ddigonedd o le tu mewn, yn cynnwys ystafell wlyb gyda chawod rymus. Ymlaciwch ar y deciau blaen neu gefn neu fwynhau barbeciw yn eich ardal eistedd breifat wrth ymyl y pwll dŵr bywyd gwyllt.
Byw yn wyrdd
Werddon ddelfrydol mewn coetir ar fferm organig. Byddwch yn cysgu’n drwm yn y pod amgrwn wedi’i leinio gyda gwlân, ar ôl edrych ar y sêr drwy’r to clir. Mae’r gegin, y gawod a’r toiled compost mewn dau gaban pren – a wnaed o goed y fferm ei hun. Mae’r pecyn croeso yn cynnwys seidr lleol.
Teyrnged i’r awdur Rob Penn a ysgrifennodd ‘The Man Who Made things out of Trees’ yn y caban hwn. Cafodd y paneli pren eu gwneud â llaw, mae canghennau yn rheiliau hongian, hamog a dec derw tu allan. Mae toiled compost yn yr ystafell gawod ensuite.
Y cyfan mewn coetir hynafol, yn llawn cân adar.
Mae’r cwt bugail hyfryd hwn yn edrych yn arbennig o dlws yn y gwanwyn pan fydd y coed afal o amgylch yn eu blodau. Mae paneli solar yn rhoi trydan, ac mae ystafell gawod en suite gyda thoiled compost. Mwynhewch y machlud rhyfeddol o ben y berllan wrth ymlacio ger y pydew tân.
Bwyd a diod gwych
The Hop Garden yn Kingstone Brewery
Yn agos iawn at Abaty Tyndyrn a’r Afon Gwy, mae’r bragdy micro hwn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau glampio – o gaban gyda thwba twym i focs ceffylau wedi’i addasu. Archebwch daith o’r bragdy, mwynhau cwrw neu ddau, a pheidiwch â cholli eu noswaith fisol pizza tân pren misol.
Mewn perllan sy’n cynhyrchu sudd afal a seidr, mae’r wagen hyfryd yma yn ddihangfa ddigidol berffaith, gan nad oes signal ffôn na WiFi. Ymlaciwch yng nghanol natur, gydag adar, pili pala ac awyr serennog. Gallwch gerdded i fwyty seren Michelin The Whitebrook mewn dim ond 10 munud, neu ymlacio o amgylch y pydew tân, yn sipian seidr.
Blas o’r Cynfyd
Er fod y wagen reilffordd yma’n bwrw i gof oes a fu, mae’r holl bethau cyfoes yma y byddech eu hangen am wyliau hamddenol: gwely dwbl moethus, ystafell gawod ensuite, cegin gyda chyfleusterau da, gardd breifat gyda chadeiriau siglo a phydew tân a saernïwyd yn lleol. Disgwyliwch flas ar fyd y rheilffyrdd hefyd.
Ar gyfer cyfuniad gwych o fenter ac ymlacio, arhoswch mewn lori byddin DAF wedi’i haddasu. Mae’n rhyfeddol beth sydd tu fewn: gwely dwbl a gwelyau bwnc a gyfer plant, cegin, ystafell gawod a thoiled. Bydd y plant wrth eu bodd yn eistedd yn sedd y gyrrwr. Tu allan mae teras preifat ar gyfer bwyta a thwba poeth a gynhesir gyda choed.
Byddwch yn cysgu mewn bws o 1976, sydd â llosgwr coed clyd, a thegell ar gyfer eich dishgled de yn y bore. Mae cegin ac ystafell gawod yn y cwt bugail gerllaw ac mae barbeciw, pydew tân a nant fach tu fas. Mae’r cyfan yn llwyr mas o’r grid, gyda phŵer solar, dŵr o’r nant a thoiled compost.
Cafodd dwy hen wagen reilffordd eu cludo i fan anghysbell ar fferm deuluol a’u trawsnewid yn encil anhygoel, gyda dec yn ymestyn dros nant. Bydd croeso cynnes gyda chynnyrch lleol yn cynnwys wyau, bara, menyn, bagiau te a bisgedi, heb sôn am wres dan y llawr a llosgwr coed.
Cyfle i brofi oes arall yn y bws ysgol Bluebird Americanaidd 1987, ar fferm dawel gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog. Fedrwch chi ddim llai nag ymlacio yma: mae’r tu mewn gwledig yn cynnwys gwely enfawr; tu fas mae twba poeth a wresogir gan goed a synau natur yn falm i’r enaid.
Crwydro cestyll
Cafodd y cwt bugail hwn ei wneud yng Nghymru ac mae’n edrych dros Gastell Rhaglan, a drechwyd gan fyddin Cromwell yn y Rhyfel Cartref. Mae gwres clyd dan y llawr, llosgydd coed ac ystafell gawod en suite. Y tu allan mae pydew tân ar gyfer y nosweithiau serennog yna. Mae cyffyrddiadau ychwanegol yn cynnwys te a theisen pan gyrhaeddwch, a brecwast cyfandirol ar eich bore cyntaf.
Allwch chi ddim mynd yn nes at hanes – mae’r safle glampio dyfeisgar hwn yn nhiroedd Cantell Brynbuga. Dewiswch o gaer, yurt, caban bugail neu hyd yn oed faril pren! Dewch i adnabod eich cyd-deithwyr yn y gegin gymunol ac wth ymchwilio olion hudolus y cantell preifat hwn.
Cyfeillgar i gŵn
Lleoliad anghysbell gyda golygfeydd godidog, a digon o le ac awyr iach i’ch ci eu mwynhau. Mae gennych ddigonedd o ddewis – coginio yn y gegin, neu tu allan ar y barbeciw neu ffwrn pizza. Os oes grŵp mawr ohonoch, archebwch y plasty gwledig ar yr un safle a chaiff Franky’s Hideout ei gynnwys.
Lluesty pren gyda holl foethusrwydd ystafell westy gyfoes. Gyda barbeciw nwy ar y teras dan do, a phydew tân yn yr ardd, byddwch chi a’ch ci yn mwynhau bywyd awyr agored. Disgwyliwch gael eich amgylchynu gan gân adar, a chadwch lygad am farcutiaid coch, cwningod a gwiwerod.
I gael mwy o syniadau, edrychwch ar y mathau arall o lety yn Sir Fynwy.