Prin yw’r bobl na fydd gweld Abaty Tyndyrn am y tro cyntaf yn cael effaith arnynt. Yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, yn ddiweddar mae adfeilion llawn awyrgylch yr abaty Sistersaidd wedi eu cynnwys yn neg uchaf Country Life o safleoedd treftadaeth ym Mhrydain.
Roedd eisoes yn gyrchfan yr oedd yn rhaid mynd iddi erbyn y 18fed ganrif (fel rhan o Daith Gwy ar hyd yr afon), mae Abaty Tyndyrn wedi ysbrydoli cerddi gan William Wordsworth ac Alfred Lord Tennyson a phaentiadau gan JMW Turner. Mae Tyndyrn wedi cyffwrdd y byd mewn sawl ffordd. Roedd yn ganolfan i ddiwydiant am gannoedd o flynyddoedd - datgelodd gwaith cadwraeth bod llu o efeiliau a ffwrneisi ar hyd afon Gwy a’i hisafonydd yn yr 16eg, 17eg a 18fed ganrif. Cynhyrchwyd pres am y tro cyntaf ym Mhrydain yng Ngefail yr Abaty, a dyma’r lle cyntaf i wneud gwifrau ar raddfa ddiwydiannol, yn fwyaf trawiadol, yma y gwnaed y cebl cyntaf i groesi’r Iwerydd.
Heddiw mae’r pentref yn ganolfan i gerddwyr a seiclwyr gyda nifer o lwybrau cylch a llwybrau hir yn cychwyn / mynd trwy’r pentref. Mae llwybr newydd Llwybr Gwyrdd yn cysylltu rhan isaf Dyffryn Gwy, gan redeg ar hyd llwybr yr hen Reilffordd Dyffryn Gwy a thrwy dwnnel drawiadol 1km Tidenham.
Mae’r holl fusnesau yn y pentref yn croesawu cŵn, felly rydych chi a’ch cyfaill ar bedair coes yn siŵr o gael croeso cynnes yma!