Mae Cas-gwent, sydd wedi'i leoli yn Nyffryn Gwy isaf, yn cynnig mynedfa olygfaol i Gymru. Ymwelwch â Chastell godidog Cas-gwent, sy'n sefyll uwchben ochrau clogwyni’r afon Gwy, ac yna dysgwch fwy am hanes y dref a Dyffryn Gwy yn Amgueddfa Cas-gwent. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae Cae Rasys Cas-gwent, y Ganolfan Deifio Genedlaethol gerllaw a chudyllod gleision ar yr afon.
Mae Cas-gwent yn dref sy'n berffaith ar gyfer cerdded, gyda llawer o lwybrau Pellter Hir yn dechrau yma, gan gynnwys Taith Gerdded Dyffryn Gwy, Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru. Gallwch gerdded o amgylch Cymru gyfan, gan ddechrau (a gorffen) yng nghornel De-ddwyrain Cas-gwent. Mae Cas-gwent yn dref achrededig Croeso i Gerddwyr, gyda Gŵyl Gerdded flynyddol ym mis Mawrth.
Beth am godi ychydig o fwyd a diod lleol o Ganolfan Groeso Cas-gwent cyn i chi adael.
Yr enw am y lle oedd Striguil yn yr oes Normanaidd (o air Lladin sy'n golygu rhych hir) ond, erbyn y 14eg ganrif roedd ganddo ei enw presennol - o'r hen Saesneg ceap/chepe sy’n meddwl marchnad a stowe sy’n meddwl lle. Yn Gymraeg daw’r enw Cas-gwent o’r ystyr llawn, sef castell Gwent.