Mwynhewch fwy na 70 o deithiau cerdded cylchol ar draws y sir, yn amrywio o lwybrau tref 1 milltir i lwybrau traws gwlad 14 milltir. Mae'r llwybrau teithiau cylchol a'r llwybrau cerdded iach i gyd yn cael eu rheoli a'u cynnal gan MonLife Countryside a’n tîm o wirfoddolwyr, tra bod y gweddill wedi'u datblygu ac yn cael eu cynnal gan sefydliadau partner.
Os ydych yn dod ar draws problem gydag unrhyw un o'n teithiau cerdded, anfonwch e-bost at rightsofway@monmouthshire.gov.uk
Os ydych chi'n chwilio am fwy o her, ewch i'n tudalen Teithiau Cerdded Pellter Hir. Dyma'r teithiau cerdded aml-ddiwrnod sy'n dechrau neu'n croesi drwy Sir Fynwy, megis Llwybr Arfordir Cymru, Taith Gerdded Dyffryn Gwy a Thaith y Tri Chastell.
Gweler Teithiau Cerdded Pellter Hir
Teithiau Cerdded Cylchol
30 o deithiau cerdded cylchol ar draws Sir Fynwy, a reolir gan Wirfoddolwyr Cefn Gwlad Sir Fynwy. O 1 i 8 milltir o hyd.
Click here to access the Pathcare Walks.
Llwybrau Cerdded Iach
23 o deithiau cerdded byr, hawdd sydd yn helpu pawb i brofi manteision taith gerdded iach, yn amrywio o 1 i 4 milltir o hyd.
Gweld Llwybrau Cerdded Iach
Gweld Teithiau Cerdded Cylchol
Teithiau Cerdded Treftadaeth Dyffryn Gwy
Tair cylched o Ddyffryn Gwy, gan ganolbwyntio ar hanes a threftadaeth.
Llwybr yr Angidy: Taith Gerdded Gylchol 5 Milltir ar hyd Cwm Angidy, Tyndyrn.
Maes Piercefield Pictiwrésg: Taith Gerdded 6 Milltir drwy Barc Piercefield, ger Cas-gwent.
Taith Gerdded Penrhyn Llan Cewydd: Taith Gerdded 6 Milltir o Gas-gwent o amgylch Penrhyn Llan Cewydd.
Teithiau Cerdded Bannau Brycheiniog
Dringwch fynyddoedd Bannau Brycheiniog gyda theithiau cerdded ar Ben-y-fâl, Y Blorens, Ysgyryd Fach, Ysgyryd Fawr a'r Mynydd Du.
Taith Gerdded Mynydd Pen-y-fâl o'r Fenni (wedi'i gymryd oddi ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros dro, ond mae modd cerdded o hyd o faes parcio Heol Fairfield, Y Fenni)
12 Taith Gerdded Hawdd yn Nyffryn Gwy a Choedwig y Ddena
Dwsin o deithiau cerdded byr wedi'u datblygu'n arbennig, sy'n addas ar gyfer unrhyw un sydd am archwilio Dyffryn Gwy’n hamddenol. Mae nifer o'r rhain wedi'u lleoli yn Sir Fynwy, neu'n agos iawn ato – lawrlwythwch y canllawiau llwybr yma:
Brockweir (2m)
Craig-y-Dorth (1.5m)
Symonds Yat (2.75m)
Traeth Tryleg (3m)
Whitestone (2m)
Llwybrau Cerdded a Cheffylau
Tri llwybr wedi'u cynllunio ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cheffylau. Dyma'r llwybrau:
Hanesion Cudd Tyndyrn: Taith gerdded 11 milltir (neu ar gefn ceffyl neu feic!) o amgylch Tyndyrn a Chwm Angidy
Darganfyddiadau Llanddingad: Taith gerdded 5.5 milltir o amgylch Sir Fynwy Wledig ger Trefynwy. Gellir ei rannu hefyd yn 2 daith gerdded fyrrach sy'n addas i deuluoedd.
Whitestone, Gwenffrwd a’r Afon Gwy: Taith gerdded 14 1/2 milltir o amgylch Dyffryn Gwy golygfaol.
Teithiau Cerdded Cefn Gwlad Cas-gwent
Tair taith gerdded gylchol ar draws y pentrefi a chefn gwlad ychydig y tu allan i Gas-gwent, gyda phwyslais ar hanes lleol diddorol yr ardaloedd.
Brwydrau, Cychod a Bynceri: Taith gerdded o amgylch Merthyr Tewdrig a Sant Pierre
Parcdir a Phalasau: Taith gerdded o amgylch Merthyr Tewdrig a Wyelands
Llwybr Papur Drwy'r Coed: Taith gerdded o amgylch Pwllmeurig a Thaith Gerdded Coedwig Great Barnets
Llwybrau Treftadaeth Glannau Hafren
Tair taith gerdded yn dathlu ein Trefi Deheuol ar Wastadeddau Gwent.
Cil-y-coed: Cestyll a Chefn Gwlad
Magwyr a Gwndy: Mynaich a Chorsydd
Rogiet: O gwmpas Rogiet a’r Rheilffyrdd
Teithiau Cerdded Cylchol Llanbadog
Casgliad o deithiau cerdded o amgylch Ward Sir Fynwy yn Llanbadog ger Brynbuga.
Taith Gerdded 1: Llanbadog ac Eglwys Madog Sant
Taith Gerdded 2: Y Felin Fach
Taith Gerdded 3: Glascoed ac Eglwys Sant Mihangel
Taith Gerdded 4: Coed y Mynach a Dyffryn Wysg
Taith Gerdded 5: O amgylch Pentref Glascoed
Taith Gerdded 6: Llanbadog a Chefn Ila
Teithiau Cerdded Llanfihangel Troddi
Casgliad o deithiau cerdded cylchol o gwmpas a ger Llanfihangel Troddi (ger Trefynwy).
Teithiau Cerdded Llanfihangel Troddi - Cyflwyniad
Taith Gerdded Llanfihangel Troddi 1 - Cylchdaith Llanfihangel Troddi
Taith Gerdded Llanfihangel Troddi 2 - Cylchdaith Llanwarw
Taith Gerdded Llanfihangel Troddi 3 - Cylchdaith Lydart
Taith Gerdded Llanfihangel Troddi 4 - Cylchdaith Lloysey
Taith Gerdded Llanfihangel Troddi 5 - Cylchdaith Penallt
Llwybrau Cylchol y Tir a’r Chwedlau
Darganfyddwch yr hanes a'r chwedlau sy'n gysylltiedig â Sir Fynwy yn y ddau lwybr hyn a grëwyd yn arbennig:
Tre-Rhew Fawr - Llwybr Cylchol Whitecastle
Tyndyrn - Taith Gerdded Gylchol Penteri
Teithiau Cerdded Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon
Darganfyddwch hanes diwydiannol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon gyda theithiau cerdded o amgylch yr ardal.
Byddwch yn ymwybodol bod y maes parcio ar gau ar hyn o bryd oherwydd deuoli'r A465. Gallwch gyrraedd yr ardal drwy gerdded o Glydach neu ar fws.
Llwybr Trysor Cwm Pwca
Llwybr Trysor y Coridor i’r Gorffennol
Llwybr Beili Crawshay: Taith gerdded o amgylch Brynmawr a Cheunant Clydach
Teithiau Cerdded Pellter Hir
Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa
Taith Gerdded Dyffryn Gwy
Taith Gerdded Dyffryn Wysg
Taith Gerdded Dyffryn Mynwy
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Taith Gerdded y Tri Chastell