I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Pethau i'w gwneud > Teithiau a golygfeydd > Teithiau hunan-dywysedig
Dyma bedwar awgrym ar gyfer gweithgaredd am un diwrnod.
Taith Pictwrésg o’r Gwy
Mae’n fwy na 250 mlynedd ers i William Gilpin fynd ar gwch i lawr Afon Gwy ym 1770, a dyma ddechrau’r diwydiant twristiaeth ym Mhrydain. Mae’r daith yn esbonio'r hyn a ysbrydolodd Gilpin (a Turner a Wordsworth ymhlith eraill) wrth i chi olrhain ei daith ar hyd Dyffryn Gwy.
Lawrlwythwch y canllaw ymwelwyr ar gyfer Dyffryn Gwy
Gerddi Godidog Sir Fynwy of Monmouthshire
Mae Sir Fynwy yn cael ei hadnabod fel ‘Sir y Garddwyr’ gyda gerddi modern a hanesyddol, mawr a bach, ac mae modd ymweld a’u mwynhau. Dechreuwch yn y de yng Ngerddi a Groto Dewstow sydd wedi ei hail-ddarganfod, sef y safle Pulham mwyaf a phwysicaf yng Nghymru.
Yna ewch i fyny Dyffryn Gwy mynd i fwynhau rhamant modern Gerddi Tŷ Veddw gyda’r ystafelloedd dirgel gwrychoedd yw geometrig. Rhan nesaf y Daith yw ymweld gyda Gerddi Cerfluniau Dyffryn Gwy sydd mewn lleoliad tawel ac ynysig ar lethr heulog yn Nhyndyrn.
Wedi hyn, ewch i’r gogledd i gyrraedd 12 erw o erddi celf a chrefft perffaith yn High Glanau, a ddyluniwyd gan H. Avery Tipping ym 1922.
Dewch i ddiwedd yr ymweliad drwy ymweld gyda Gerddi Llanofer, gardd hanesyddol anhygoel o 15 erw, gyda’r planhigion, llwyni a choed llysieuol, a wal gylchol o gwmpas yr ardd a’r parc . Mae’r ardd i’w gweld yn rhifyn mis Tachwedd o Gylchgrawn Gerddi’r RHS ac yn wych yn yr hydref.
Bwyd a Hanes
Dewch i ddarganfod y gorau o’n hanes a’n bwyd gydag amserlen Archwilio Sir Fynwy, sydd yn eich tywys o’r Canol Oesoedd i’r gwinllannau modern.
Dechreuwch yng Nghastell Normanaidd Cil-y-coed a’r parc gwledig delfrydol; teithiwch wedyn ymlaen i Hen Orsaf Fictoraidd Tyndyrn; ewch i’r Neuadd Sir Sioraidd yn Nhrefynwy; yna ewch i flasu gwin ym Mherllan White Castle; ac yn olaf, ewch i fwynhau Te Prynhawn swmpus yng Ngwesty’r Angel yn y Fenni.
Taith Cymru Agincourt
Ewch i archwilio’r tirwedd lle y cafodd Harri’r V ei eni, lle y bu’n arbrofi ei dactegau milwrol a dyna’r lle iddo sicrhau cefnogaeth hanfodol ar gyfer ei ymgyrch yn Ffrainc.
Mae Brwydr Agincourt, ar 25 Hydref 1415, yn un o’r digwyddiadau enwocaf yn hanes Prydain. Mae’r llwybr yn cysylltu wyth lleoliad ar draws y rhanbarth, sydd yn olrhain straeon y bobl a’r lleoedd a fu’n chwarae rôl yn y frwydr enwog.
Mae stori Harri’r V yn gorchfygu byddin Ffrenig a oedd dipyn yn fwy yn rhan anfarwol nawr o chwedlau, dramâu a barddoniaeth sydd yn gyfarwydd i bawb. Yr hyn sydd yn llai gwybyddus yw’r rôl a chwaraewyd gan Gymru yn y fuddugoliaeth anhygoel i Harri. Roedd 500 o saethwyr o Gymru a 23 o ddynion ag arfau wedi teithio i frwydro yn Ffrainc – nifer ohonynt o Swydd Frycheiniog a Sir Fynwy – ynghyd â grŵp o saethwyr a glowyr o Fforest y Ddena. Dysgwch sut y cafodd y teyrngarwch yma ei wobrwyo wrth i’r uchelwyr yng Nghymru dyfu mewn cyfoeth a statws ac rydym yn symud at sefydlu y Brenhinlin Tuduraidd.
Wrth adeiladu ar lwyddiant y dathliad 600 mlynedd ers Brwydr Agincourt yn 2015, mae taith ddehongliadol newydd wedi ei datblygu er mwyn dathlu cysylltiad Cymru gydag Agincourt.
Maer Cronfa Dathlu 600 Agincourt wedi gweithio gyda Choed Cadw i blannu coed yn nifer o’r lleoliadau er mwyn cynnig coffa parhaol a fydd yn tyfu a’n datblygu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Mae dilyn y llwybr yn caniatáu ymwelwyr i ddysgu mwy am stori Agincourt wrth iddynt grwydro ar hyd y rhanbarth.
Lawrlwythwch y canllaw ar gyfer Taith Cymru Agincourt
Yn ystod Brwydr Agincourt, roedd y Brenin Harri V wedi cadw tlysau’r Goron mewn twr yn y St Pierre, ger Cas-gwent. Heddiw, dyma’r Marriott St Pierre, gwesty a chlwb golff sydd wedi ei osod o gwmpas y faenor hynafol.
Teithiau Tywys
Manteisiwch i’r eithaf ar eich ymweliad gyda’r rhanbarth drwy hurio gwasanaethau tywysydd teithiau proffesiynol. Aelodau o’r Gymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru yw’r unig dywyswyr sydd yn cael eu cydnabod yn swyddogol i arwain teithiau tywys yng Nghymru. Maent yn cynnig Tywyswyr Bathodynnau Glas sydd wedi eu hyfforddi’n drwyadl, yn broffesiynol a’n brofiadol ac yn eich helpu i ddod â’ch taith yn fyw.
Mae yna ddysenni o dywyswyr, pob un yn meddu ar arbenigedd, diddordebau a sgiliau iaith gwahanol. Mae Tywyswyr Bathodynnau Glas yn medru eich tywys ar hyd a lled y rhanbarth tra bod Bathodynnau Gwyrdd yn cynnig arbenigedd mwy arbenigol a lleol.
Er mwyn dod o hyd i dywysydd sydd yn addas i chi, ewch i www.walesbestguides.com.