I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Archwiliwch Sir Fynwy > Brynbuga
Mae gan Frynbuga lawer o bethau i’w mwynhau. I ddechrau, mae'n eistedd ar un o'r afonydd pysgota eog gorau yn y wlad, yr Afon Wysg. Yna mae ei gastell o'r 11eg ganrif, y cefndir ar gyfer gardd hudolus, ramantus.
Ond ei brif nodwedd yw fel enillydd rheolaidd Cymru yn ei Blodau, (37 mlynedd yn olynol). Ac yn bellach i hynny, yn 2017 enwyd Brynbuga yn gyd-enillydd categori'r pentref mawr yng ngwobrau Prydain yn ei Blodau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, ochr yn ochr â Market Bosworth yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Yna yn 2018 fe wellodd ar hyn drwy ennill ''Gwobr Her Ryngwladol (Categori Bach)' yn Seremoni Cymunedau yn ei Blodau yng Nghanada.
I ddangos ei gerddi hardd, mae Brynbuga yn cynnal penwythnos Gerddi Agored lliwgar bob mis Mehefin. Gallwch hefyd fwynhau eu sioe sirol bob mis Medi, eu Hamgueddfa Bywyd Gwledig (gyda chaffi blasus), a Llwybr Tref sy'n cynnwys 28 safle o ddiddordeb hanesyddol, pob un â Phlac Glas, oll yn y dref fach hardd hon.