I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Natur a Bywyd Gwyllt > Clychau’r Gog yn Sir Fynwy
Ble i weld y Clychau’r Gog mwyaf godidog yn Sir Fynwy
Mae canol Ebrill – canol Mai yn dymor clychau’r gog felly mae’n amser gwych i ymweld â Sir Fynwy i weld y wledd dymhorol a mwynhau y carpedi glas yn ein coetiroedd. Mae clychau’r gog yn fwy na dim ond tlws i edrych arnynt. Mae eu petalau lliwgar yn denu amrywiaeth mawr o bryfetach a phlanhigion ac maent yn gyfoethog mewn paill sy’n golygu eu bod yn ffynhonnell bwysig o fwyd ar gyfer gwenyn fydd wedyn yn peillio’r ardal gyda mwy o flodau clychau’r gog hardd.
Mae carped o glychau’r gog yn dangos ei bod yn goetir hynafol – oherwydd mae clychau’r gog yn araf iawn i ledaenu (maent wrth eu bodd gyda phridd cyfoethog mewn mwynau a gyfoethogwyd gan gannoedd o flynyddoedd o ddail yr hydref yn cwympo) ac maent yn cymryd mor hir i ymsefydlu.
Er eu bod yn tyfu’n niferus ac yn olygfa gyffredin yng Nghymru, yn annisgwyl mae clychau’r gog yn blanhigyn gwarchodedig. Mae clychau’r gog yn neilltuol o sensitif i gael eu sathru ac os caiff eu dail eu difrodi, maent yn ei chael yn anodd tyfu’n ôl felly cadwch at lwybrau a diogelu ein coetiroedd ar gyfer clychau’r goch am genhedlaethau i ddod.
Ein pump hoff le ar gyfer clychau’r gog
1. Coed y Bwnydd ger Brynbuga
‘Rhif un’ ym marn ein cydweithwyr yn Adran Cefn Gwlad Sir Fynwy yw Coed y Bwnydd, safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nyffryn Wysg gydag efallai y gaer Oes yr Haearn yn y cyflwr gorau yn Sir Fynwy. Mae’r tirlun bryniog yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt a gallwch fod yn sicr o arogl arobryn clychau’r goch yn y gwanwyn.
Dilyn Llwybr Cerdded Gofal Llwybrau 12 i’w gyrraedd o faes parcio Stad Clytha.
2. Y Cymin ger Trefynwy
Ewch i’r Cymin i weld arddangosiadau hardd o glychau’r gog ymysg y coed ar y bryn. Fel bonws, cewch olygfeydd gwych dros Drefynwy.
3. Whitestone yn Nyffryn Gwy
Mae’r coetiroedd o amgylch Dyffryn Gwy yn lleoliad perffaith ar gyfer clychau’r gog a gallwch eu gweld ar eu gorau o amgylch Whitestone. Mae gennym ddau lwybr cerdded o wahanol hyd sy’n cynnwys y coetiroedd collddail, gyda’r ddau yn cynnig golygfeydd gwych dros Ddyffryn Gwy a digonedd o gyfleoedd i edmygu clychau’r gog.
Mynd am dro 2 filltir o amgylch Whitestone.
Mwynhau mynd am dro hirach 14 milltir o amgylch Whitestone, Whitebrook a Dyffryn Gwy
4. Coedwig Neuadd Goetre ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Yn cael ei reoli gan Adran Cefn Gwlad Sir Fynwy mae’r safle yma yn 3.5 hectar o goetir bryniog dail llydan mewn tirlun tebyg o dir amaethyddol o gaeau bach a choedwigoedd.
Ymweld â Choedwig Neuadd Goetre
Mynd am dro cylch ymysg clychau’r gog
5. Coedwig Gwent yn ne Sir Fynwy
Fel y bloc mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru, nid yw’n syndod fod clychau’r gog wrth eu bodd yng Nghoedwig Gwent yn ne Sir Fynwy. Gallwch eu gweld fel blanced dros lawr y coetir ar lwybr cerdded ‘Gray Hill’, ac yna fwynhau golygyfeydd diguro dros Wastadeddau Gwent a Môr Hafren.
Mwy o wybodaeth ar fywyd gwyllt Sir Fynwy