I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Rhesymau i ymweld > Perlau cudd Sir Fynwy
Dychmygwch eich diwrnod perffaith. Efallai mai castell sy'n bwydo'ch angerdd am hanes; neu olygfa sy’n berffaith am lun Instagram; neu gaffi clyd lle gallwch ymlacio a gwylio'r byd yn mynd heibio. Nid y mannau mwyaf poblogaidd i dwristiaid, y mynydd uchaf na'r atyniad yr ymwelir ag ef fwyaf yw'r lleoedd gorau bob amser. Weithiau bydd eich diwrnod perffaith yn cael ei dreulio oddi ar y llwybrau arferol - yn dod yn gyfarwydd â lleoedd y mae pobl leol yn eu caru. Gobeithio y bydd rhai o'r perlau cudd hyn yn dod yn ffefrynnau i chi.
(Fferm Pentwyn, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent)
Mae blodau gwyllt y gwanwyn ar Fferm Pentwyn ger Trefynwy yn anhygoel, diolch i'r defnydd o ddulliau ffermio traddodiadol. Mae llwybr ag arwyddbyst yn eich arwain drwy'r dolydd gwair hardd, wedi'i ymylu â gwrychoedd hynafol a waliau cerrig sych. Mae gan Gors Magwyr, darn hanesyddol o ffendir ar Wastadeddau Gwent, glytwaith o gynefinoedd sy'n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt trwy gydol y flwyddyn. Ewch am dro ar hyd y llwybr pren ac ymweld â'r cuddfannau adar, yna galwch heibio i bentref Magwyr lle ceir sgwâr deniadol a dewis da o siopau, caffis a thafarndai.
Pethau Da i wybod : Mae Castell Cil-y-coed a Chaerwent Rufeinig - y ddau am ddim i ymweld â nhw - yn daith fer i ffwrdd.
(Llyn Llandegfedd)
Wrth i chi fwynhau eich brechdanau ger Llyn Llandegfedd, mae digonedd i'w wylio bob amser, ar y dŵr ac ar y glannau. Ar ôl padlfyrddio sefyll, golff antur neu grwydro ar hyd y llwybrau cerdded, dewch â’ch ymweliad i ben gyda danteithfwyd o'r caffi! I fwynhau mainc bicnic yn adfeilion castell gyda golygfeydd anhygoel, dewiswch y Castell Gwyn. Dyma'r mwyaf trawiadol o'r Tri Chastell (Y Grysmwnt ac Ynysgynwraidd yw'r lleill) a adeiladwyd i reoli'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ar ôl i chi orffen archwilio, galwch i mewn i Winllan Castell Gwyn gerllaw am ychydig o win arobryn!
Pethau Da i wybod : Mae llwybr cerdded cylchol 19 milltir yn cysylltu'r Tri Chastell hyn
(Eglwys Sant Jerome - Alex Ramsey ar gyfer Cyfeillion Eglwysi Digyfaill)
Yn agos i Frynbuga mae tair eglwys nodedig, hanesyddol y mae eu lleoliadau anghysbell bron yn gwarantu unigedd. Mae gan Sant Jerome sgrin ganoloesol gain a theils llawr Cyn-Raffaelaidd. Mae gan Eglwys Dewi Sant o'r 15fed ganrif tu fewn anhygoel sydd heb ei adfer, tra bod Eglwys San Mihangel a'r Holl Angylion yn gartref i glychau hynaf Sir Fynwy. Gofalir amdanynt gan Gyfeillion Eglwysi Digyfaill, mae'r eglwysi hyn ar agor i ymwelwyr bob dydd, diolch i wirfoddolwyr lleol.
Pethau Da i wybod : Nid nepell o Gil-y-coed mae eglwys San Mihangel a'r Holl Angylion – gyda dolen i Henry Jones, dyfeisiwr blawd hunangodi.
Cefn Ila yw'r lle perffaith i grwydro. Unwaith yn safle maenordy, mae'n cynnwys coetir a blannwyd yn ddiweddar, ardd goed sefydledig, gardd furiog a pherllan hynafol. Mae llwybr troed milltir o hyd yn ei gysylltu â thref bert Brynbuga, gyda digonedd o siopau a llefydd i fwyta. Wrth siopa yn Nhrefynwy, cymerwch saib yn yr ardd sy'n coffáu ymweliad yr Arglwydd Nelson â'r dref gyda’r Arglwydd ac Arglwyddes Hamilton ym 1802. Fe welwch chi Ardd Nelson wedi'i chuddio y tu ôl i'r stryd fawr, ac yn hygyrch dim ond trwy dwnnel byr. Wedi'i adfer i'w anterth fel oedd yn y 19eg ganrif, mae ar agor ar ddyddiadau dethol o'r gwanwyn i'r hydref – gwiriwch ddyddiau ac amseroedd.
Pethau Da i wybod : I gerdded gydag eraill a chael rhywfaint o wybodaeth leol, rhowch gynnig ar daith dywys.
(Priordy Llanddewi Nant Hodni)
Ewch i Ddyffryn Ewias serth, a byddwch yn gadael y byd modern ar ôl. Mae'r dirwedd drawiadol hon wedi denu mynachod, llenorion a chrefyddwyr ers canrifoedd. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd y gefnen ddwyreiniol, gyda cherddwyr yn aml yn disgyn i'r cwm i dreulio noson yng Ngwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni a adeiladwyd o fewn adfeilion godidog y fynachlog 900 mlwydd oed.
Pethau Da i wybod : Peidiwch â disgwyl signal ffôn symudol ond byddwch yn siŵr o fwynhau syllu yn yr awyr dywyll yma.
(Glampio Penhein)
Osgowch y ffôn, rhyngrwyd a phethau eraill sy'n tynnu’ch sylw gydag arhosiad cyfforddus mewn llety amgen gan gynnig lefelau amrywiol o fyw oddi ar y grid - o hamogau a thybiau poeth pren, i goginio pydew tân, a thoiledau compost! Yn y Bluebell Cabin mae gwely llofft rhamantus, ac ystafell ymolchi mewn hen focs ceffyl. Mae'r Wood Shack a Mistletoe Treehouse mewn mannau coediog delfrydol, ond eto ddim mor ynysig fel na allwch gerdded i dafarn leol. Mae pebyll cromennog Penhein yn cyfuno’r gwledig gyda’r moethus, a gallwch chi goginio ar bydew tân, stof llosgi coed neu yn eu 'Cegin y Twyllwr'. Mae'r cerbydau rheilffordd sydd wedi'u hadnewyddu sy'n ffurfio Llanthony Court Castaway yn eithriadol o ran cyfleusterau a lleoliad.
Pethau Da i wybod : Mae gennym gymysgedd eclectig o lety amgen wedi'i ledaenu ar draws y sir.
Am fwy o ysbrydoliaeth, cymerwch olwg ar bopeth sydd yna i'w wneud yn Sir Fynwy.