Yn swatio yn rhan isaf Dyffryn Gwy hardd, mae Trefynwy, Tref Wenyn gyntaf y Deyrnas Unedig, wedi bod yn ganolfan i dwristiaeth ers 1780. Yn adnabyddus am ei bont â phorth o’r 13eg ganrif, mae gan Drefynwy orffennol enwog gyda’i chysylltiadau â Harri’r V, Sieffre o Fynwy ac (yn fwy diweddar) Queen, Oasis a Simple Minds a fuodd oll yn recordio yn stiwdio Rockfield. Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan bwysig o DNA’r dref, gyda gŵyl gerdd flynyddol am ddim bob haf.
Mae Trefynwy’n enwog hefyd am ei siopau annibynnol – cofiwch am Bees for Development, Fingal Rock, Atelier Gilmar a Salt and Pepper. Ceir yma fwytai addas i bob chwaeth a digon o gyfle am goffi mewn caffi mewn iard dawel.