I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Gwybodaeth > Ymweld â sir Fynwy Polisi Preifatrwydd
Cyfarwyddiaeth: MonLife
Maes Gwasanaeth: Rheoli Cyrchfannau
Manylion Cyswllt: dataprotection@monmouthshire.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gwasanaeth
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r hysbysiad hwn yn amlinellu’r sylfaen os ydym yn casglu unrhyw ddata wrthych ar ein gwefan (https://www.visitmonmouthshire.com), neu unrhyw ddata yr ydych yn darparu i ni mewn ffordd arall.
Mae’r mathau o wybodaeth bersonol yr ydym yn medru casglu wrthych a’n dal amdanoch yn cynnwys:
• Gwybodaeth gyswllt
• Gwybodaeth ariannol ryngweithredol – ar gyfer yr hyn sydd yn cael ei brynu drwy Visit Monmouthshire
• Gwybodaeth cyfeiriad IP
Ffynonellau eich data personol
1 Rydym yn casglu a’n prosesu’r data canlynol amdanoch:
1.1 Gwybodaeth yr ydych yn darparu drwy lenwi ffurflenni ar wefan VisitMonmouthshire.com. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth sy’n cael ei darparu gan fusnesau, mudiadau ac unigolion, am ymddangos ar y wefan, tanysgrifio ar gyfer ein gwasanaethau (gan gynnwys derbyn cylchlythyron). Rydym hefyd yn medru gofyn i chi am wybodaeth pan eich bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu ymgyrch a noddir gennym a phan eich bod yn adrodd problem gyda’n gwefan.
1.2 Gwybodaeth yr ydym yn casglu ar gyfer mesur gwerth a nifer o ran twristiaid yn Sir Fynwy.
1.3 Os ydym yn cysylltu gyda chi ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
1.4 Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolygon yr ydym yn defnyddio at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt a’u cwblhau.
1.5 Manylion unrhyw drafodiadau a wneir drwy ein gwefan.
1.4 Manylion eich ymweliadau gyda’n gwefan gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddata traffig, lleoliad y data, blogs a data cyfathrebu arall, p’un ai bod hyn eu hangen at ddibenion bilio neu fel arall a’r adnoddau yr ydych yn defnyddio.
2. Cyfeiriadau IP a chwcis
2.1 Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich dyfais, gan gynnwys os yn bosib eich cyfeiriad IP, system weithredol a’r math o borwr, er mwyn gweinyddu systemau a’n rhannu gwybodaeth yn ei grynswth i’n hysbysebwyr. Mae hyn yn ddata ystadegol am weithrediadau a phatrymau'r sawl sydd yn defnyddio ein porwr ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn.
2.2 Yn sgil yr un rheswm, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o’n Gwefan drwy ddefnyddio cwci sydd yn cael ei storio ar yriant caled eich dyfais. Mae cwcis yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau bod ein Gwefan yn gweithio a’n medru darparu gwasanaeth gwell ac sydd wedi ei bersonoli. Maent yn caniatáu ni i:
a. Cael amcangyfrif o faint a phatrwm defnydd ein cynulleidfa.
b. Storio gwybodaeth am eich hoff bethau a’n caniatáu ni bersonoli ein gwefan yn unol gyda’ch diddordebau unigol.
c. Eich caniatáu i chwilio am bethau yn fwy cyflym.
d. Sylwi pan eich bod yn dod nôl i’n Gwefan.
2.3 Mae’r cwcis sydd yn cael eu defnyddio ar ein Gwefan yn:
a. ASP.NET_SessionId – Mae’r cwci yn hanfodol ar gyfer medru gweithredu a defnyddio ein Gwefan. Mae’r cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn gadael ein porwr.
b. _utma, _utmb, _utmc, _utmz - Mae’r cwcis yn cael eu defnyddio gan Google Analytics er mwyn casglu gwybodaeth am sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wefan i lunio adroddiadau a’n helpu ni wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn modd anhysbys, gan gynnwys y nifer o ymwelwyr sydd yn dod i’r safle, o ble y mae’r ymwelwyr wedi dod a’r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy. Er mwyn osgoi Google Analytics ar draws unrhyw wefannau, ewch i https://tools.google.com/dlpage/gaoptout.
c. dmsTPC – Mae’r cwci yn cofnodi a yw’r defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis Google Analytics ar wefan https://www.visitmonmouthshire.com. Mae’r cwci yma yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
d. Er mwyn dysgu mwy am y cwcis, gan gynnwys sut i weld sut y mae’r cwcis wedi eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, yna ewch i www.allaboutcookies.org
2.4 Nid yw’r polisi preifatrwydd yn cynnwys dolenni o fewn y safle ac sydd yn cysylltu i wefannau eraill. Rydym yn annog chi i ddarllen datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ydych yn ymweld gyda hwy.
2.5 Efallai y byddwn yn cynnwys fideos ar ein gwefan o’n sianel YouTube gan ddefnyddio mesurau preifatrwydd estynedig YouTube. Mae hyn yn medru gosod cwcis ar eich dyfais unwaith eich bod yn clicio ar chwaraewr fideo YouTube ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis sydd yn medru adnabod unigolion. Er mwyn dysgu mwy, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.google.com/support/youtube/bin/answer.py?hl=en-GB&answer=171780 .
2.6 Efallai y byddwn yn arddangos naill ai un o’r ‘widgets’ canlynol neu’r ddau:
a. ‘Feed widgets’ (sydd yn arddangos ffrwd o’n tudalen rhwydwaith cymdeithasol). Nid ydynt yn creu cwci.
b. ‘Sharing widgets’ (fel Facebook Like, Twitter Share neu AddThis) sydd yn caniatáu chi i rannu cynnwys https://www.visitmonmouthshire.com gyda’ch ffrindiau neu ddilynwyr. Nid yw’r rhain yn creu cwci tan eich bod yn clicio ar y graffeg neu’r eicon sydd yn cynrychioli’r rhwydwaith rhannu yr ydych am ddefnyddio. Drwy glicio ar y graffeg neu’r eicon, rydych yn rhoi caniatâd i ni drosglwyddo eich data i’r rhwydwaith cymdeithasol priodol.
Polisi preifatrwydd Facebook ar ategion cymdeithasol: https://www.facebook.com/about/privacy/your-info-on-other#socialplugin
Polisi preifatrwydd Twitter ar gwcis a rhannu gwybodaeth: https://twitter.com/privacy .
Polisi preifatrwydd AddThis' ar gwcis a rhannu gwybodaeth: http://www.addthis.com/privacy
3. Ble ydym yn storio eich data personol
3.1 Gan fod ein gweinyddwyr wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig, mae’r data yr ydym yn casglu gennych yn cael ei gadw, ei brosesu, ei storio a’i drosglwyddo mewn cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth diogelu data. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i drosglwyddo, storio neu brosesu data. Byddwn yn cymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol gyda’r polisi preifatrwydd yma.
3.2 Nid yw trosglwyddo’r wybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl sicr. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i amddiffyn eich data personol, nid ydym yn medru sicrhau y bydd eich data yn ddiogel pan fydd yn cael ei drosglwyddo i’n gwefan; mae’r cyfrifoldeb yma yn eiddo i’r unigolyn. Unwaith ein bod wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio’r gweithdrefnau priodol a’r nodweddion diogelwch er mwyn medru atal unrhyw fynediad anawdurdodedig.
Pwrpas a’r sylfaen gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Pwrpas y prosesu, y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu a’r cyfnodau ar gyfer storio gwybodaeth
4.1 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol:
a. Yn sicrhau bod cynnwys ein Gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol ar gyfer chi a’ch dyfais.
b. Darparu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau i chi yr ydych wedi gofyn amdanynt a’r rhai yr ydym yn credu sydd o ddiddordeb i chi, a hynny os ydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hyn.
c. Gweithredu yn unol gyda’n oblygiadau sydd yn deillio o gontractau gan gynnwys ein Gwefan.
ch. Eich caniatáu chi gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth pan eich bod yn dewis gwneud hyn.
d. Hysbysu chi am unrhyw newid i’n gwasanaeth.
dd. Eich diweddaru chi am ein gwasanaethau ac unrhyw beth sy’n cael ei hyrwyddo yn ein Cylchlythyron.
4.2 Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data i roi gwybodaeth i chi am ein nwyddau a gwasanaethau sydd o ddiddordeb i chi o bosib ac efallai y byddwn yn cysylltu gyda chi drwy gyfrwng e-bost, neges destun, post neu ffôn.
4.3 Os ydym yn caniatáu’r sawl sydd wedi ymlynu gyda ni i ddefnyddio eich data, byddwn ni (neu hwy) ond yn cysylltu gyda chi os ydych wedi rhoi caniatâd i ni.
4.4 Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am unigolion i’n hysbysebwyr neu fudiadau sydd yn golygu bod modd adnabod yr unigolion ond efallai y byddwn yn rhoi data iddynt yn ei grynswth am ein defnyddwyr (er enghraifft, efallai y byddwn yn ein hysbysu bod 500 o ddynion o dan 30 wedi clicio ar eu hysbysiad ar ddiwrnod penodol). Efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth yn ei grynswth hefyd i helpu hysbysebwyr i gyrraedd y math o gynulleidfa y maent am dargedu (er enghraifft, menywod yn SW1). Efallai y byddwn yn defnyddio’r data personol yr ydym wedi casglu gennych i gydymffurfio gyda dymuniadau ein hysbysebwyr pan yn arddangos eu hysbyseb i’r gynulleidfa darged.
4.5 Ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol:
a. Edrych ar ein Gwefan a danfon ymholiadau atom – Mae angen hyn ar gyfer y dasg gyhoeddus sydd yn cael ei berfformio er budd cyhoeddus i hyrwyddo lles economaidd yn Sir Fynwy.
b. Archebion (gan fedru gweld ceisiadau) ac archebion o’r eSiop – Mae angen hyn er mwyn medru perfformio yn unol gyda’r contract.
c. Marchnata/Cylchlythyron electronig – Caniatâd.
Eich hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl
Mae hawl gennych i dynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu gwybodaeth at ddibenion marchnata, Rydym yn cynnig dewis opsiynol ar gyfer derbyn cyfathrebu marchnata a byddwn hefyd yn nodi’n eglur unrhyw fudiadau eraill sydd o bosib yn prosesu eich data personol. Rydych yn medru arfer eich hawl i atal y fath ddata rhag cael ei brosesu ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r swyddogaeth datdanysgrifio ar e-bost marchnata neu drwy gysylltu ar e-bost: tourism@monmouthshire.gov.uk, neu ffoniwch: 01633 644842.
Pwy fydd yn medru cael mynediad at eich gwybodaeth?
Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Sir Fynwy.
E-bost: dataprotection@monmouthshire.gov.uk
Efallai y bydd ambell Reolydd Data yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol. Cysylltwch gyda'r Maes Gwasanaeth am fwy o wybodaeth.
Dyma’r adrannau yr ydym yn rhannu eich data gyda hwy yn fewnol:
Dim un
Dyma’r asiantau/mudiadau yr ydym yn rhannu eich data gyda hwy yn allanol:
Mae gwefan marchnata cyrchfannau Sir Fynwy www.visitmonmouthshire.com yn cael ei yrru gan un o gronfeydd data mwyaf cynhwysfawr a diweddar Cymru. Busnesau lleol, sydd yn defnyddio’r protocol er mwyn gosod cofnod ar, o bosib yn prosesu eich data busnes.
Y sylfeini cyfreithiol ar gyfer prosesu eich data busnesau yw ‘Cytundeb’, ‘Diddordebau Cyfreithlon' neu ‘Tasg Gyhoeddus’, gan ddibynnu ar fudiad a natur y prosesu. Mae hyn yn broses yr ydych yn medru disgwyl yn rhesymol, sydd yn ymwneud gyda’ch presenoldeb busnes ar wefannau a chyhoeddiadau’r mudiad a’ch defnydd o Visit Monmouthshire.
Fel rhan o’r prosesu, efallai y bydd mudiadau yn cysylltu gyda’ch busnes am eich defnydd o Visit Monmouthshire, diweddaru eich cofnod ar wefannau a chyhoeddiadau’r mudiad, neu sut i ddefnyddio’r nodweddion system sydd yn medru elwa nifer eich cwsmeriaid a’r hyn y maent yn gwario.
Efallai y bydd Simpleview (Ltd) yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’u grŵp sydd yn golygu eu his-gwmnïau, y cwmni daliannol a’r is-gwmnïau, fel sydd wedi ei ddiffinio yn adran 736 o Ddeddf Cwmnïau DU 1985.
Efallai y byddant yn datgelu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd parti :
a. Os ydynt yn gwerthu neu’n prynu unrhyw asedau busnes, byddant o bosib yn datgelu eich data personol i’r gwerthwyr neu’r prynwr arfaethedig ar gyfer y fath fusnesau neu asedau.
b. Os yw trydydd parti yn prynu rhan helaeth neu’r holl asedau, yna bydd y data personol sydd ganddynt am gwsmeriaid yn un o’r asedau yn o’r asedau sydd yn cael eu trosglwyddo.
c. Os ydynt o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio gydag unrhyw oblygiadau cyfreithiol, neu er mwyn gweithredu ein Telerau ac Amodau a chytundebau eraill; neu amddiffyn hawliau, eiddo, gwybodaeth gyfrinachol neu ddiogelwch ein Gwefan, cwsmeriaid, neu eraill ac yn enwedig os oes angen i ni atal twyll neu drafodion twyllodrus. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a mudiadau eraill er mwyn atal twyll a lleihau risg credyd.
Bydd ein gwefan, o dro i dro, yn cynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbyswyr a mudiadau cysylltiedig eraill. Os ydych yn dilyn dolenni i unrhyw un o’r gwefannau yma, nodwch fod polisi preifatrwydd eu hunain ganddynt, ac felly, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y polisïau yma. Gwiriwch y polisïau yma cyn eich bod yn rhannu unrhyw ddata personol gyda’r gwefannau yma.
Bydd gwybodaeth ariannol trafodiadol (yn ymwneud gyda phrynu pethau oddi ar wefan Visit Monmouthshire) yn cael ei rannu gyda Stripe.
Ceisiadau am wybodaeth
Mae’r holl wybodaeth sydd wedi ei gofnodi gan Gyngor Sir Fynwy o bosib yn dod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol gan gynnwys unrhyw gyfraith arall o ran Diogelu Data.
Os oes cais am wybodaeth yr ydych yn darparu o dan y ddeddfwriaeth uchod, bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori gyda chi ynglŷn ag a ddylid datgelu’r wybodaeth. Os ydych yn gwrthwynebu, byddwn yn ymatal rhag datgelu hyn os yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Mae’r cyfnod y mae Cyngor Sir Fynwy yn dal y wybodaeth yn ddibynnol ar y rheoliadau statudol neu arferion gorau.
Y cyfnodau cadw ar gyfer eich data personol:
a. Bydd cofnodion o’r Gronfa Ddata Weithredol yn cael eu dileu ar ôl cau’r busnes neu ar 18 mis ar ôl ei ddefnyddio am y tro diwethaf.
b. Bydd cofnodion o’r Gronfa Ddata e-Farchnata yn cael eu dileu ar ôl 24 mis ar ôl cael eu defnyddio am y tro diwethaf, e.e. ar ôl danfon e-bost.
Storio a chyhoeddi cofnodion busnes:
a. O ran storio a chyhoeddi cofnodion busnes ar y wefan hon, ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data yma yw “Tasg Gyhoeddus”. Mae gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn datgan y canlynol- "mae angen prosesu er mwyn i chi fedru ymgymryd â thasg er budd cyhoeddus neu fel rhan o’ch swyddogaethau swyddogol".
b. Rydym yn storio manylion am lety, lleoliadau a manylion busnes arall (Data Masnachu) yn ein cronfa ddata er mwyn hwyluso’r gwaith o gyhoeddi hyn ar eu gwefan. Ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu yw bod yn rhan o’n tasg gyhoeddus. Mae manylion busnes eisoes ar gael yn gyhoeddus ac rydym yn defnyddio hyn mewn modd y modd y byddai busnesau yn ei ddisgwyl ac yn medru elwa ohono.
Marchnata
Rydych wedi rhoi caniatâd i’ch manylion cyswllt i gael eu defnyddio at ddibenion marchnata. Byddwch yn/wedi derbyn manylion am y marchnata yr hoffai Cyngor Sir Fynwy wneud ynghyd ag unrhyw opsiynau ynglŷn â sut ydych am i ni gysylltu gyda chi. Rydych yn medru tynnu eich caniatâd yn ôl ar gyfer derbyn marchnata ar unrhyw bryd drwy gysylltu gyda manylion y Maes Gwasanaeth sydd ar frig y ffurflen hon.
Eich Hawliau
Eich hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yw
• Yr hawl i gael eich hysbysu
• Yr hawl i gael mynediad at wybodaeth
• Yr hawl i gael iawndal os yw Cyngor Sir Fynwy yn methu cydymffurfio gyda gofynion y Rheoliadau Diogelu Data o ran eich gwybodaeth chi.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth sydd gennym. Mae modd i chi arfer yr hawl yma yn unol gyda’r Ddeddf. Ar ôl 25ain Mai 2018, pan ddaeth GDPR yn gyfraith gwlad, mae modd gwneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth rhesymol heb fod angen talu ffi. Bydd angen gwneud hyn o fewn un mis. Fel rhan o hyn, rydych yn medru gwneud cais am eich data personol sydd wedi ei gywiro neu’i ddileu. Y canlyniad ar ôl derbyn cais i ddileu yw bod hyn yn medru effeithio ar unrhyw archebion sydd ar ôl neu archebion sy’n cael eu prosesu.
Os nad ydych yn fodlon gydag ein hymateb, rydych yn medru cysylltu gydag awdurdod goruchwylio’r DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, https://ico.org.uk er mwyn rhannu eich pryder.
Am wybodaeth bellach, ewch os gwelwch yn dda i www.ico.org.uk
Gweithdrefn Gwyno
Os ydych yn gwrthwynebu’r ffordd y mae Cyngor Sir Fynwy yn trin eich data, mae hawl gennych i gwyno. Cysylltwch gyda’r Maes Gwasanaeth ar ddechrau’r ddogfen hon gan esbonio eich pryderon. Dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth am y broses gwyno.
Os ydych yn parhau’n anhapus, mae hawl gennych i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - www.ico.org.uk
Rhif Hysbysiad Preifatrwydd: TLCYTO001
Dyddiad a Grëwyd: 25/05/18
Dyddiad a Gyhoeddwyd: 21/02/2023
Rhif y Fersiwn: 2
Hysbysiad Cryno o Breifatrwydd Data
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae prosesu eich data personol gan Gyngor Sir Fynwy yn angenrheidiol er mwyn rheoli Sir Fynwy fel cyrchfan a hyrwyddo’r sir ymhlith ymwelwyr. Heb y wybodaeth hon, mae’n bosib na fyddai’r gwasanaeth twristiaid o fewn Cyngor Sir Fynwy yn medru ymgymryd â'r dasg gyhoeddus o hyrwyddo lles economaidd.
Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu gydag unrhyw adrannau mewnol eraill neu fudiadau allanol oni bai bod hyn wedi ei nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd llawn neu yn sgil rhesymau diogelu neu unrhyw oblygiadau cyfreithiol eraill.
Bydd eich cofnodion yn cael eu storio yn ofalus a’u cadw yn unol gyda’n polisi ar gadw data oni bai ein bod angen eu cadw yn sgil rheswm cyfreithiol arall.
Mae nifer o hawliau gennych sydd yn ymwneud gyda’r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch a’r hawl i gwyno os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich gwybodaeth wedi ei brosesu.
Os ydych angen gwneud cwyn am y modd y mae eich gwybodaeth wedi ei brosesu, yna cysylltwch gyda dataprotection@monmouthshire.gov.uk or ac os nad ydych yn gwbl fodlon gyda’r ateb, yna cysylltwch gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar-lein yma - www.ico.org.uk/concerns neu drwy’r llinell gymorth: 0303 123 1113