I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Archwiliwch Sir Fynwy > Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Sir Fynwy yw'r porth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, enillydd y wobr Cyrchfan Orau yng Nghymru yn 2018. Gan ffurfio tua un rhan o bump o gyfanswm arwynebedd Sir Fynwy, mae'r Bannau Brycheiniog yn cynnwys tir mwyaf garw Sir Fynwy. Mae yna ddigon o ffyrdd i fwynhau'r Bannau Brycheiniog yma, o ymweld â thref farchnad bwyd y Fenni neu ddarganfod adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, i ymlacio ar gwch cul ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu neu ddringo uchelfannau'r Mynyddoedd Du.
Daeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf y wlad yn 2012, ac mae yna ddwsinau o leoedd o amgylch y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll ddynodedig yn Sir Fynwy, lle gallwch chi stopio a phrofi awyr nos hynod glir.