I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Sut i gyrraedd Sir Fynwy
Mae’n syndod o rwydd cyrraedd Sir Fynwy sut bynnag y penderfynwch deithio.
Mewn car :
Rydym o fewn tua dwy awr lawr yr M4 o Lundain ac mae Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr awr i ffwrdd.
Mae gan Sir Fynwy gysylltiadau ffordd rhagorol drwy’r M4 (o Lundain, De Ddwyrain Lloegr a Gorllewin Cymru) gan sicrhau fod llawer o Brydain, yn cynnwys y prif feysydd awyr a phorthladdoedd fferi, o fewn 3 awr mewn car.
O Lundain a De Lloegr defnyddiwch yr M4 ac ail groesfan Hafren Tywysog Cymru neu ar gyfer Cas-gwent, Tyndyrn a Dyffryn Gwy, ewch ar yr M48 ychydig heibio Bryste a chroesi’r Bont Hafren wreiddiol.
Nid oes bellach angen talu tollau ar y naill Bont Hafren na’r llall. (Cafodd y tollau ei diddymu ym mis Rhagfyr).
Mae’r wybodaeth traffig diweddaraf ar gefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru ar gael yn https://traffig.cymru/
Ar y Trên:
Mae gorsafoedd rheilffordd yng Nghyffordd Twnnel Hafren, Cil-y-coed, Cas-gwent a’r Fenni gyda gwasanaethau prif lein yn dod i’r ardal o Lundain (mewn llai na 2 awr), Bryste, Birmingham, Caerdydd a Crewe. I gael mwy o wybodaeth ac archebu tocynnau cysylltwch ag Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol https://www.nationalrail.co.uk/
Ewch i wefan Trainline i gael help yn cynllunio eich taith ar y rheilffordd, cael amserau rhedeg trên fel maent yn digwydd a gwybodaeth am hygyrchedd a chyfleusterau ar draws Ewrop.
Ar y Bws:
Mae Tocyn Hyblyg Ymchwilio Cymru yn rhoi 4 diwrnod o deithio rheilffordd a 8 diwrnod o deithio bws o fewn cyfnod o 8 diwrnod ac yn cynnig prisiau mynediad rhatach i nifer fawr o atyniadau ymwelwyr yn ogystal â gostyngiadau ar lety. https://www.nationalrail.co.uk/archive/NFM17/times_fares/pr14490cc35ce74101d518784bce2d58.html
Gofynnir i ymwelwyr gydag anghenion penodol neu seiclwyr sy’n defnyddio’r trenau gysylltu â’r cwmni gweithredu trenau perthnasol.
I gael mwy o wybodaeth ar gyrraedd a mynd o amgylch Sir Fynwy, ewch i Traveline Cymru https://www.traveline.cymru/
Mae National Express yn gweithredu rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau coets i Gas-gwent, Casnewydd a Rhosan ar Gwy https://www.nationalexpress.com
Map Trafnidiaeth Sir Fynwy