Maint bach. Crefftus. Ymroddgar. Ymarferol. Dewch i gwrdd â'r gwneuthurwyr mewn marchnadoedd rheolaidd ar draws y sir i gael blas go iawn ar Sir Fynwy.
Mae'r neuadd farchnad Fictoraidd, a adnewyddwyd yn ddiweddar yn y Fenni, yn cynnal amrywiaeth eang o farchnadoedd drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys ffermwyr crefftus, celf a chrefft, hen bethau a'r marchnadoedd bwyd stryd a’r marchnadoedd nos grefftau poblogaidd.
Mae Cil-y-coed yn cynnal marchnadoedd ar ddydd Mawrth a dydd Sadwrn.
Cynhelir Marchnad Stryd Fawr Cas-gwent ar yr ail ddydd Sul a'r dydd Sul olaf o bob mis.
Mae marchnadoedd Trefynwy yn gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Cynhelir Marchnad Ffermwyr Brynbuga ar y dydd Sadwrn cyntaf a'r trydydd dydd Sadwrn o bob mis.