I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Gwyliau Gwyrdd > Chwarae Naturiol
Mae treulio amser mewn cysylltiad gyda natur yn hanfodol ar gyfer llesiant ac mae’n rhywbeth y byddwch yn ei wneud yn awtomatig pan gewch wyliau yn nhirwedd gwledig Sir Fynwy.
Mae llu o fannau gwyrdd a glas i’w mwynhau: gwarchodfeydd natur, coedwigoedd, mynyddoedd, gwlypdiroedd ac afonydd. Dewch i ddarganfod man lle gallwch ddianc iddo, cwrdd â ffrindiau, ymarfer neu yn syml fwynhau’r tawelwch. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn a byddwch yn gwerthfawrogi amrywiaeth yr harddwch wrth i’r tymhorau newid.
Safleoedd Baner Werdd yn Sir Fynwy
Rydym yn falch o’r mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr Baner Werdd i gydnabod eu croeso i ymwelwyr a’u ffordd o reoli’r amgylchedd. Y diweddaraf i ennill hynny yw camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, y mae llawer yn ei ystyried yn gamlas tlysaf Prydain. Peidiwch colli lliwiau tymhorol Coedwig Neuadd Goetre cyfagos – carped o glychau’r gog yn y gwanwyn, lliw gwyrdd dymunol yn yr haf a choch ac aur hardd yn yr hydref. Dyma hefyd fan dechrau taith gylch sy’n dilyn rhan o’r gamlas.
(Hydref ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog – Hawlfraint y Goron)
Bu Baner Werdd gan safle cyfeillgar i’r teulu Hen Orsaf Tyndyrn am 14 mlynedd! Mannau eraill sydd wedi ennill y wobr yw Parc Gwledig Castell Cil-y-coed, sy’n rhoi arddangosiad naturiol ysblennydd yn yr hydref, a Dolydd y Castell wrth ymyl yr Afon Wysg, sy’n cynnig cyfleoedd i weld bywyd gwyllt ychydig funudau o stryd fawr brysur y Fenni. Yn agos at Ddolydd y Castell mae Perllan Gymunedol Laurie James, gydag arwydd ar y glwyd y gofynnir i chi gasglu ychydig a gadael digonedd ar gyfer pobl eraill.
Ardaloedd chwarae awyr agored ar draws Sir Fynwy
Ni fydd yn rhaid i chi fynd ymhell os ydych yn edrych am feysydd chwarae awyr agored a lle i blant redeg o gwmpas tra’ch bod yn Sir Fynwy.
Y Fenni
(Chwarae yng Nghastell y Fenni yn ystod Gŵyl Fwyd y Fenni)
Mae teuluoedd yn mwynhau tri man gwyrdd yn agos at ganol y dref. Mae gan Barc Bailey faes chwarae lliwgar i blant, offer ymarfer i oedolion a llwybr o amgylch lle mae rhai ifanc yn hoffi mynd ar eu beiciau. Mae tiroedd Castell y Fenni, gydag ardaloedd glaswelltog a meinciau, yn fan delfrydol ar gyfer brechdan. Mae caffe (Ambika Social) yng Ngerddi Linda Vista, maes chwarae a thoiledau ac mae plant wrth eu bodd yn chwilio am glêr a chasglu dail dan y coedydd gwych. Mewn tywydd twymach, mae teuluoedd yn mwynhau dosbarthiadau yoga awyr agored a sesiynau straeon ar gyfer plant.
Cil-y-coed
(Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed)
Ychydig funudau o ganol y dref mae Caeau Chwarae Brenin George V, lle mae plant yn chwarae pêl, rhedeg o amgylch ar y glaswellt a chael hwyl yn yr ardal chwarae. Mae oedolion egnïol yn manteisio ar yr offer ymarfer i oedolion, cyn i bawb gael saib wrth y meinciau picnic.
Mae dros 50 erw o dir, coetir, pyllau a nentydd i’w mwynhau ym Marc Gwledig Castell Cil-y-coed, sydd hefyd â Baner Werdd.
Trefynwy
Mae plant wrth eu bodd gyda’r fframiau dringo pren, swings a meri-go-rownd yn ardal Chwarae Chippenham, sy’n agos at Stryd Blestium gyda nifer o feysydd parcio yn agos. Mae’n rhan o gaeau helaeth Chippenham gyda llwybrau coediog a digon o fannau gwyrdd i blant redeg o amgylch. Mae caffes a siopau yn ymyl yn Stryd Mynwy.
Rhaglan
Mae maes chwarae pren, croquet, boules a fersiwn enfawr o jenga, nadroedd ac ysgolion a gwyddbwyll yn rhai o’r atyniadau awyr agored ar gyfer plant yn Stad Wledig Rhaglan.
Tyndyrn
Does dim cyfle o ddiflastod ar yr offer gwifren sip ac offer chwarae yn yr Hen Orsaf. Holwch am becyn gweithgaredd i’r teulu pan gyrhaeddwch, mae’n llawn syniadau i’ch helpu i ymchwlio’r safle ac i barhau i gael hwyl pan ewch adre.
Brynbuga
Mae swings, sleidiau a fframiau dringo lliwgar ar gyfer pob oed ym Mharc Brynbuga, ynghyd â meinciau picnic. Gallwch barcio am ddim ym maes parcio De Stryd Maryport, a chrwydro i’r dref am damaid i fwyta.
Chwarae gwyllt yn Sir Fynwy
Er bod meysydd chwarae gyda swings, meri-go-rownd a llithrenni yn hwyl, gall y byd naturiol fod y maes chwarae gorau oll. Edrychwch am syniadau ac ysbrydoliaeth o bethau i’w gwneud gyda’r plantos! Ewch i Lyn Llandegfedd i edrych ar yr hwyaid a dilyn llwybr cerdded. Ymunwch â theuluoedd o’r un anian yn Wild Tots y Fenni a sbarduno chwilfrydedd eich plentyn am y byd naturiol. Cynhelir sesiynau yn yr awyr agored drwy gydol y tymor, felly gwisgwch yn addas!
Ewch â’r plant am benwythnos yn yr awyr agored – ewch i glampio. Dewch â’ch pabell neu gamperfan i Highlands Holidays am brofiad nôl i natur ar fferm fach. Edrychwch ar yr anifeiliaid, chwarae ar y swing rhaff, ymchwilio’r llwybrau coedwig, cynhesu malws melys ar y pydew tân, a gwrando ar gri’r tylluanod. Mae ganddynt hefyd fwthyn yn y berllan afalau, os byddai’n well gennych gysgu mewn gwely! Mae penwythnos yn Old-Lands, ger Trefynwy, yn rhoi mynediad i chi i stad deuluol a gaiff ei rhedeg ar egwyddorion gwyrdd, yn cynnwys siop onestrwydd yn gwerthu cynnyrch lleol. Mae geocaches i’w canfod a choed, planhigion a phryfetach dirifedi i’w hadnabod. Mae map y stad yn dangos i chi lle i fynd i ymchwilio, a gan ei fod yn debyg i fap morladron, mae plant wrth eu bodd yn ei liwio!
Canfyddwch fwy am y bywyd gwyllt y mae Sir Fynwy yn gartref iddynt.