I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Gwybodaeth > Telerau ac Amodau
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn cyfeirio at www.visitMonmouthshire.com
Drwy gyrchu cynnwys www.visitMonmouthshire.com (“y Wefan”) cytunwch i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau a nodir yma a’ch bod yn derbyn ein polisi preifatrwydd. Os ydych yn gwrthwynebui unrhyw un o’r telerau ac amodau a nodir yn y cytundeb ni ddylech ddefnyddio dim o’r cynnyrch neu wasanaethau ar y Wefan a gadael ar unwaith.
Cytunwch na fyddwch yn defnyddio’r Wefan ar gyfer dibenion anghyfreithiol, ac y byddwch yn parchu pob cyfraith a rheoliad cymwys. Cytunwch i beidio defnyddio’r Wefan mewn ffordd a all amharu ar berfformiad, llygru cynnwys neu fel arall ostwng y ffordd y mae’r Wefan yn gweithio’n gyffredinol. Rydych yn cytuno hefyd i beidio lleihau diogelwch y Wefan neu geisio gael mynediad i ardaloedd diogel neu wybodaeth sensitif.
Cytunwch i fod yn llwyr gyfrifol am unrhyw hawliad, traul, ymrwymiad, colledion, costau yn cynnwys ffioedd cyfreithiol a wneir gennym yn deillio o unrhyw dresmasu ar y telerau ac amodau a nodir yn y cytundeb hwn.
Rhoddir yr wybodaeth ar y ddealltwriaeth nad yw’r Wefan yn ymwneud â rhoi cyngor ac ni ddylid dibynnu’n llwyr arni wrth wneud unrhyw benderfyniad cysylltiedig.
Caiff yr wefan a roddir o fewn y Wefan ei darparu ar sail “fel y mae” heb fynegi unrhyw warant neu ei olygu fel arall yn ymwneud â chywirdeb, addasrwydd ar gyfer diben, cymhwysedd neu sicrwydd unrhyw elfennau o’r Wefan.
Nid ydym yn gwarantu y bydd gwefan www.visitMonmouthshire.com ar gael yn ddi-dor ac ni allwn roi unrhyw gynrychiolaeth y bydd defnyddio’r Wefan yn rhydd o gamgymeriadau.
Ni fydd Ymweld â Sir Fynwy mewn unrhyw amgylchiadau yn atebol am iawndal anuniongyrchol, arbennig neu ddilyniadol yn cynnwys unrhyw golli busnes, refeniw, elw neu ddata yn ymwneud â’ch defnydd o’r Wefan.
Ni fydd dim o fewn y Cytundeb hwn yn gweithredu i eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf bersonol fel canlyniad i esgeulustod Ymweld â Sir Fynwy, neu ei bartneriaid.
Mae pob eiddo deallusol Ymweld â Sir Fynwy tebyg i nodau masnach, enwau masnach, patentau, dyluniadau cofrestredig ac unrhyw hawliau eiddo deallusol awtomatig arall sy’n deillio o estheteg neu ddull gweithredu y Wefan yn parhau’n eiddo Ymweld â Sir Fynwy.
Drwy ddefnyddio’r Wefan rydych yn cytuno i barchu hawliau eiddo deallusol Ymweld â Sir Fynwy a bydd yn ymatal rhag copïo, lawrlwytho, trosglwyddo, atgynhyrchu, argraffu neu ymelwa ar gyfer diben masnachol unrhyw ddeunydd a gynhwysir o fewn y Wefan.
Mae Ymweld â Sir Fynwy yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r cytundeb hwn heb rybudd a chaiff eich defnydd o’r Wefan ei gyfrif fel derbyniad o’r cytundeb hwn. Cynghorwn ddefnyddwyr i wirio Telerau ac Amodau’r cytundeb hwn yn rheolaidd.
Mae gan Ymweld â Sir Fynwy ddisgresiwn llwyr i addasu neu ddileu unrhyw ran o’r safle yma heb rybudd neu atebolrwydd yn deillio o weithredu o’r fath.
Gall y Wefan hon gynnwys hyperddolenni i wefannau a weithredir gan bartïon eraill. Nid ydym yn rheoli gwefannau o’r fath ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am hynny ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd am eu cynnwys. Nid yw ‘r ffaith ein bod yn cynnwys hyperddolenni i wefannau o’r fath yn golygu ein bod yn cymeradwyo mewn unrhyw fodd farnau, ddatganiadau neu wybodaeth a roddir mewn gwefannau o’r fath.
Os dyfernir fod unrhyw ddarpariaeth o’r Cytundeb hwn yn annilys neu na fedrir ei weithredu, caiff darpariaeth o’r fath ei ddiddymu a bydd y darpariaethau sydd ar ôl yn parhau mewn grym.
Caiff y Cytundeb hwn ei lywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru ac mae unrhyw un sy’n defnyddio’r Wefan hon yn cytuno i gael eu rhwymo’n llwyr gan awdurdodaeth llysoedd Lloegr neu Cymru heb gyfeiriad at y rheolau’n ymwneud â dewis cyfreithiau.
Os ydych yn anfodlon gydag unrhyw agwedd o’r gwasanaeth a ddarperir gan Ymweld â Sir Fynwy, gadewch i ni wybod naill ai drwy
1. ysgrifennu atom yn Twristiaeth Sir Fynwy, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, . NP15 1GA
2. drwy e-bost at tourism@monmouthshire.gov.uk.
Ein nod yw datrys eich pryder cyn gynted ag sydd modd. Os na fedrwch ateb erbyn diwedd y diwrnod busnes dilynol, ar ôl i ni ei dderbyn, byddwn yn cysylltu â chi i:
1. gydnabod eich consyrn.
2. eich cynghori am bwy sy’n trin eich ymholiad.
ym mwyafrif yr achosion, gallwn ddatrys eich pryder o fewn 7 diwrnod busnes o’i dderbyn. Os nad ydym wedi ei ddatrys o fewn 7 diwrnod busnes, byddwn yn cysylltu â chi unwaith eto i’ch diweddaru am gynnydd a dweud faint hirach y rhagwelwn y bydd yn ei gymryd.