Ewch dan ddaear yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, mynd ar daith ar Reilffordd Treftadaeth Blaenafon, datgloi’r gorffennol yng Ngwaith Haearn Blaenafon a mwynhau camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Agorodd Big Pit yn 1860 ac roedd yn dal i gynhyrchu glo tan 1980. Bellach yr Amgueddfa Lofaol Genedlaethol yw’r prif atyniad yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon. Caiff y daith dywys dan ddaear ei harwain gan gyn-lowyr ac mae arddangosfa ddiddorol iawn am waith glowyr i’w gweld ym Maddondy Pen y Pwll.