Os ydych yn chwilio am gyffro, mae'n rhaid ymweld â Chae Rasys Cas-gwent, cartref cyfarfod ras mwyaf mawreddog Cymru - Grand National Coral Cymru. Mae’r Grand National Coral Cymru gwerth £150,000 yw diwrnod rasio mwyaf y flwyddyn yng Nghymru, a fydd yn cael ei gynnal y diwrnod ar ôl Gŵyl San Steffan bob blwyddyn. Gyda 32 o gyfarfodydd bob blwyddyn, gyda rasio ar y gwastad a rasio neidio, mae yna gyfarfod sy'n addas ar gyfer pob angen a diddordeb rasio ceffylau. Mae Cae Rasys Cas-gwent hefyd yn cynnal nosweithiau ras gerddoriaeth fyw gyda bandiau enw mawr a diwrnodau i'r teulu sy'n cynnwys adloniant plant am ddim yn yr haf.
Cynhelir digwyddiadau marchogaeth eraill, gan gynnwys Sioe Ddangos, Gemau Marchogol a Gyrru Cerbydau, yng Nghanolfan Ddigwyddiadau David Broome gerllaw, sydd wedi'u lleoli yng nghartref teuluol David Broome, enillydd medal Olympaidd a phencampwr y byd neidio ceffylau.
Yn ogystal, mae canolfannau hamdden Sir Fynwy, sydd wedi'u lleoli yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau hamdden gyda phyllau nofio, campfeydd, neuaddau chwaraeon amlbwrpas a chaffis gwych.