I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Natur a Bywyd Gwyllt
Yn gorwedd rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy a gyda mwy na 50 o safleoedd cadwraeth dynodedig statudol (50 SoDdGA a 6 ACA), a thros 700 o safleoedd bywyd gwyllt lleol (dynodiadau anstatudol), Sir Fynwy yw'r lle perffaith i fynd yn agos at natur ac i deimlo’r manteision o wneud hynny.
Mae Dyffryn Gwy yn gartref i geirw, ystlumod, dyfrgwn, tegeirian prin, glas y dorlan, baeddod ac, oherwydd natur lanw'r afon, efallai y gwelwch chi ambell lamhidydd neu forlo hyd yn oed!
Gwastadeddau Gwent yw un o'r ychydig gadarnleoedd sy'n weddill ar gyfer cardwenyn y llwyni a llygod y dŵr tra bod crychod ac adar y bwn cyffredin wedi dychwelyd yma'n ddiweddar ar ôl absenoldeb hir.
Mae fflora a ffawna’r afon Wysg yr un mor amrywiol, ac mae'n cynnwys eog yr Iwerydd, dyfrgwn, gwangod, herlod, llysywod pendwll yr afon, pysgod garw Ewropeaidd, brithyll brown, cochgangod, brwyniaid cyffredin a rhufellod cyffredin yn ogystal â glas y dorlan, crëyr llwyd ac adar gwyllt eraill a bywyd adar yn gyffredinol. Cadwch lygad am fronfreithod bach y dŵr a barcutiaid i fyny'r afon o Frynbuga.
Dyfrgwn ar Afon Wysg
Roedd dalgylchoedd afonydd Wysg a Gwy wedi cadw eu poblogaethau dyfrgwn drwy gydol yr ugeinfed ganrif, pan gollodd y rhan fwyaf o Loegr eu poblogaethau oherwydd erledigaeth a llygredd. Mae'r ddwy afon wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer y rhywogaeth, felly mae'n werth cadw llygad os ydych yn agos at ein hafonydd neu ein camlesi, neu ar Wastadeddau Gwent, yn enwedig ar wawr neu wrth iddi dywyllu. Gyda ffrwd brithyll yn rhedeg gyferbyn â'r gwesty a'r ardd gwrw, a ffrwd fyw dyfrgwn sy'n ymddangos ar sgrin deledu yn y bar, yr Olway Inn yw'r lle perffaith i arsylwi ar yr anifeiliaid nosol anodd eu gweld hyn yn eu hamgylchedd naturiol.
Cafodd y ffilm hyfryd hon o ddau ddyfrgi ar Afon Wysg ei ffilmio gan y selog natur lleol Richard Houghton - diolch am rannu hyn Richard!
Glas y Dorlan, Gwas y Neidr a llygod y dŵr ar y Gwastadeddau
Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i gynulliad cyfoethog o fywyd gwyllt, yn rhannol oherwydd y canrifoedd o gynnal a chadw sefydlog y cyrsiau dŵr, sydd wedi arwain at un o'r casgliadau gorau o infertebratau dyfrol yn y DU yn yr ardal. SoDdGA Cors Magwyr yw'r ardal gymharol naturiol olaf o gorstir ar Wastadeddau Gwent. O weld glas y dorlan ysblennydd, i weld gweision y neidr lliwgar yn gwibio dros y rhewyn, mae hwn yn lle ysbrydoledig i ymweld ag ef. Yn yr hydref a'r gaeaf mae'r warchodfa'n arbennig o ddeniadol i wylwyr adar, gan fod y pwll yn darparu noddfa ar gyfer adar gwyllt sy’n gaeafu a mudwyr sy'n teithio heibio. Unwaith yn olygfa gyffredin ar y Gwastadeddau, mae llygod dŵr Ewropeaidd wedi cael eu hailgyflwyno i Gors Magwyr lle mae poblogaethau bellach yn cynyddu.
Taith Gerdded Adar y Droell wrth iddi dywyllu ar Beacon Hill
Darganfyddwch ddychwelyd tirwedd hynafol ar y daith gerdded 1.5 milltir dyner hon drwy ardaloedd o rostir sy'n gwella lle mae adar y droell wedi dychwelyd fel ymwelwyr haf. Byddwch yn hynod o ffodus i weld adar y droell yn ystod y dydd, mae eu cuddliw yn wych, ond ewch am dro wrth iddi dywyllu ym mis Mai, Mehefin neu ddechrau Gorffennaf ac rydych yn weddol debygol o'u clywed. Mae'r gwrywod yn canu cân 'troelli' fwyaf anarferol, wedi'i chipio'n hyfryd yn y ffilm fer hon 'The Nightjars of Beacon Hill', a gynhyrchwyd gan AHNE Dyffryn Gwy.
Mae golygfan Beacon Hill hefyd yn un o'r llefydd mwyaf hudolus i eistedd a gwylio wrth i'r haul fachlud y tu ôl i silwetau arbennig Pen-y-fâl, Ysgyryd Fawr a’r Blorens, ond cofiwch ddod â thortsh ar gyfer y daith gerdded yn ôl i'r maes parcio.
Gall cŵn darfu ar yr adar sensitif hyn sy'n nythu ar y ddaear, felly cadwch nhw ar dennyn neu eu gadael gartref ar gyfer y daith gerdded hon.
Mynediad: O'r B4293 yn Nhryleg, cymerwch y ffordd wedi'i harwyddo 'Llaneuddogwy, Catbrook, Tyndyrn' a chymerwch y troad i'r chwith yn syth. Ar ôl 1/2 milltir cymerwch y troad cyntaf i'r chwith. Mae maes parcio Beacon Hill CNC 1/4 milltir ar y dde.
Crehyrod ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu
Mae’r gamlas yn atyniad poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn ddyfrffordd brydferth a heddychlon. Mae'r rhan fordwyadwy o'r gamlas yn rhedeg am 35 milltir o Aberhonddu i Fasn Pont-y-moel ac mae'n hafan i fywyd gwyllt ac yn ffefryn gyda phobl sy'n hoff o fyd natur, cerddwyr a beicwyr. Yn wahanol i lawer o gamlesi mae ganddo goed ar hyd llawer o'i hyd ac amrywiaeth o flodau gwyllt ar ei glannau. Llogwch gwch cul neu gwch drydan diwrnod i weld amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys crehyrod.