I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Ffilm a Theledu yn Sir Fynwy > Sanditon yng Nghastell Cil-y-coed
Roedd Castell Cil-y-coed yn serennu adeg ffilmio ail gyfres Sanditon, drama gyfres ITV yn seiliedig ar nofel anorffenedig Jane Austen. Bu gwersyll y fyddin ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed drwy gydol y tymor, felly cadwch olwg am y castell ei hun yn ymddangos yn y cefndir o bryd i’w gilydd.
Dyma ef yn chwarae mig gyda Augusta Markham ar ddechrau Tymor 2, Pennod 1:
Sanditon S2_Ep1. Yn y llun: Augusta Markham (ELOISE WEBB). Ffotograffydd: James Pardon
A dyma fe yn beirniadu cystadleuaeth ffensio rhwng Capten Fraser a Chapten Carter:
Sanditon S2_Ep1. Yn y llun: Captain Fraser (FRANK BLAKE) a Chapten Carter (MAXIM AYS). Ffotograffydd: James Pardon
Rwy’n siŵr y cytunwch iddo wneud gwaith da iawn yn edrych yn gastell-aidd. Dylai unrhyw un sydd eisiau gweld perfformiad y castell drostynt ei hunan fynd i dudalen ITV Hub ar gyfer Sanditon. Mae’n ymddangos amlaf ym mhenodau un a chwech yr ail dymor.
Ac os dymunwch ymweld â’r lleoliad ffilmio mae Castell Cil-y-coed ar agor bob dydd Mawrth – dydd Sul rhwng y Past – Calan Gaeaf ac mae’n RHAD AC AM DDIM i weld.