I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Cynlluniwch eich ymweliad > Gwyliau Gwyrdd > Teithio Gwyrdd
Gallwch deithio i’r rhan hon o Gymru yn rhwydd iawn o weddill Prydain, gyda gorsafoedd rheilffordd yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Chyffordd Twnnel Hafren. Os ydych yn gyrru car trydan, defnyddiwch ZapMap i ganfod y mannau gwefru cyhoeddus a llety sydd â mannau gwefru ar y safle. Mae gan Westy’r Angel yn y Fenni gar trydan dwy sedd Renault Twizy ar gael i westeion ymchwilio’r ardal mewn ffordd hwyliog, eco-gyfeillgar.
(The Angel Hotel's Renault Twizy)
Gallwch barhau i ddefnyddio dulliau gwyrdd o drafnidiaeth yn ystod eich arhosiad, gyda dim ond ychydig o feddwl ymlaen llaw. Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio teithiau gan gynnwys dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo a cherdded. Dyma rai awgrymiadau am ymchwilio Sir Fynwy mewn dull cyfeillgar i’r amgylchedd.
Ar droed
Mae gwasanaethau bws ar gael ledled Sir Fynwy wledig (er heb fod mor gyson ag mewn dinasoedd), ac maent yn ffordd ddefnyddiol o gyrraedd man dechrau taith, ac yna gerdded yn ôl i’ch man cychwyn. Dyma awgrymiadau am droeon godidog lle mae gwasanaethau bws cyson:
Ymchwiliwch ran o Lwybr godidog Dyffryn Gwy drwy ddal bws rhif 69 o Gas-gwent i Dyndyrn. Ewch oddi ar y bws gyferbyn ag Abaty Tyndyrn, a gyda’r abaty ar y dde i chi, ewch ar y lôn gul lan y rhiw. Trowch i’r chwith ar y top, a byddwch ar Lwybr Dyffryn Gwy sydd â chyfeirnodau. Os cewch gychwyn cynnar, bydd gennych amser i ymchwilio Abaty Tyndyrn cyn cerdded y 5 milltir yn ôl i Gas-gwent. Cynlluniwch eich taith gyda’r map hwn neu Fap OS Explorer 14 (ar gael o Ganolfan Croeso Cas-gwent).
Mae rhan fwyaf dwyreiniol Llwybr y Bannau o Lanfihangel Crucornau i’r Fenni yn dro 7 milltir gweddol galed gyda golygfeydd gwych o gopa’r Ysgyryd Fawr. O’r Fenni, daliwch y bws X3 i Lanfihangel Crucornau, a mynd oddi arno yn The Skirrid Inn. Gyda’r dafarn i’r dde ohonoch cerddwch i gyfeiriad y de. Gyferbyn y stepiau i’r eglwys, cymerwch y llwybr rhwng y tai, yna groesi ffordd yr A465 yn ofalus. Dilynwch y ffordd o’ch blaen, i gyfeiriad Llanvihangel Court. Ar ôl mynd heibio’r plasdy Tuduraidd, aiff llwybr troed ar y dde â chi i fynydd Ysgyryd Fawr. Mae’r dringo lan y mynydd ei werth ef am golygfeydd gwych o’r copa. Gan ddod i lawr y mynydd yn raddol bydd y lonydd gwledig yn mynd â chi yn ôl i’r Fenni. Cynlluniwch eich taith gyda’r map hwn neu fap OS Explorer 13.
Ar eich beic
(Seiclo heibio Melin Wynt Llancaio ger Brynbuga - Callum Baker)
Os dewch â’ch beic eich hun i ymchwilio Sir Fynwy, byddwch yn gwerthfawrogi llety sydd â dyfarniad Croeso i Seiclwyr felly gallwch fod yn sicr o fan diogel i gadw eich beic, cyfleusterau golchi beic a lle i sychu eich dillad awyr agored. P’un ai ydych yn barod am her dringfa adnabyddus Tymbl neu fod yn well gennych bedalu’n dawel ar hyd yr hen reilffordd o Lan-ffwyst, mae Lilac Cottage mewn lleoliad delfrydol. Mae Penylan Farm Cottages, Wern Farm Cottage a Whitehill Farm o fewn pellter rhwydd o’r Peregrine Path sydd fwy neu lai yn wastad gan ddilyn yr Afon Gwy a chroesi’r ffin rhwng Cymru/Lloegr ac yn ôl eto. I gael mynediad rhwydd i Lwybr Gwyrdd Dyffryn Gwy – llwybr a gynlluniwyd ar gyfer seiclwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadair eglwys – arhoswch yn Tintern Abbey Cottage, yn edrych dros yr abaty eiconig.
P’un ai ydych yn edrych am daith feiciau i’r teulu gyda thywysydd ewch ar hyd hen reilffordd neu daith gyffrous ar feic mynydd, Huw Dullea yn Tread and Trails yw’r arbenigydd hanfodol yn ardal y Fenni. Yn awyddus i ddiogelu’r amgylchedd lle mae’n seiclo, mae ei fusnes yn cyfrannu 1% o’i werthiant i fudiadau gwirfoddol lleol sy’n diogelu ac yn cyfoethogi’r amgylchedd.
Aiff Tied E-Bike Tours â chi ar daith tywys diwrnod llawn o Dyffryn Gwy ar feiciau trydan safon uchel, sy’n ei gwneud yn rhwydd teithio ar dirweddau bryniog yn yr Ardal Harddwch Natur Eithriadol yma. Gan ddechrau yn Nhrefynwy (y gellir ei chyrraedd mewn bws neu gar), bydd tywyswyr gwybodus yn eich arwain heibio gogoniant Abaty Tyndyrn a threftadaeth ddiwydiannol Cwm Angiddy nad oes llawer yn gwybod amdano, gydag aros am ginio mewn tafarn gyfeillgar. Os byddai’n well gennych ymchwilio’r ardal heb dywysydd, bydd Launch Guides yn cynnig beiciau ar log, ac maent yn gyfarwydd iawn â’r holl lwybrau gorau yn Nyffryn Gwy.
Ynni’r haul
(Monmouthshire & Brecon Canal - Beacon Park Boats)
Mae Beacon Park Boats yn cyfuno teithio gwyrdd gyda llety eco. Mae’r busnes arloesol hwn wedi cynllunio ac adeiladu cwch cul trydan chwyldroadol ar gyfer gwyliau ar gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Drwy dechnoleg o’r math diweddaraf, mae’r cwch 5-seren hwn (a elwir yn Robin) yn teithio am wythnos ar hyd y gamlas ar ynni gwyrdd, heb fod angen ail-wefru ei fatris. Cyn i’ch gwyliau ddechrau, caiff ynni ar gyfer y cwch cul dau-wely ei storio mewn batris a gaiff eu gwefru yn defnyddio paneli ynni haul yn y cei. Wrth i chi deithio, caiff dŵr twym ar gyfer y cegin a’r ystafell gawod ei gynhyrchu drwy bwmp gwres o ddŵr, yn defnyddio dŵr y gamlas fel cyfrwng gwresogi. Y gwyliau gwyrdd moethus delfrydol!
Gweithredwyr teithiau arbenigol
(Y Castell Gwyn ar Lwybr y Tri Chastell – Hawlfraint y Goron)
I’ch ysbrydoli i aros ychydig yn hwy, edrychwch ar y teithiau a gynigir gan weithredwyr teithio cerdded a seiclo. Gadewch y gwaith o gynllunio a chludo paciau iddyn nhw, a mynd ati i fwynhau eich antur.
Cerddwch ar hyd Lwybr Clawdd Offa i gyd (neu dim ond rhan ohono) gyda Celtic Trails, sydd â’i bencadlys yn Nhyndyrn. Ymchwiliwch Lwybr Dyffryn Gwy gyda busnes lleol arall, Great British Walks. Mae Llwybr y Tri Chastell yn berffaith ar gyfer gwyliau byr, ond os nad ydych ar frys, ewch i ddarganfod mwy o Fannau Brycheiniog, gan ddechrau yn y Fenni. Mae Drover Holidays yn cynnig gwyliau cerdded a theithio gyda thywysydd neu heb dywysydd, a hyd yn oed wyliau cerdded cyfeillgar i gŵn fel y gallwch ddod â’ch cyfaill gorau gyda chi. Os yw eich bryd ar her, mae Bikecation yn cynnwys gwyliau seiclo ffyrdd sy’n cynnwys dringfa adnabyddus y Tymbl lan mynydd y Blorens. I gael perspectif gwahanol, mae Wheely Wonderful Cycling yn cynnig gwyliau seiclo a chanwio yn Nyffryn Gwy.
I gael digonedd o syniadau, edrychwch ar fwy o’r llwybrau cerdded a seiclo yn Sir Fynwy.