I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Ffilm a Theledu yn Sir Fynwy > Sex Education
Gallai rhai sy’n hoff o’r gyfres gomedi boblogaidd Sex Education ar Netflix fod wedi sylwi ar rywbeth ychydig yn gyfarwydd am y golygfeydd, ac mae hynny oherwydd y cafodd llawer ohoni ei ffilmio yn Nyffryn Gwy, Sir Fynwy a’r cyffiniau. Gyda’r trydydd tymor allan nawr ar Netflix, credem mai dyma’r amser i edrych sut y gallwch yn llythrennol gerdded yn ôl traed Otis, Eric, Maeve a’r criw.
Er na chaiff y pentref mae Otis yn byw ynddo ei enwi o gwbl, mae lluniau (a lleoliad y siop deuluol) yn awgrymu’n gryf mai Llandogo yn Nyffryn Gwy yw. Mae’r pentref prydferth hwn drws nesaf i Tyndyrn ac yn cynnig golygfeydd bendigedig dros Ddyffryn Gwy.
Cerdded, seiclo neu farchogaeth ar daith 15 milltir o amgylch Dyffryn Gwy, yn cynnwys Llandogo
Gwelir Otis ac Eric yn gyson yn croesi’r Hen Bont Reilffordd yn Nhyndyrn i fynd i’r ysgol (a gaiff mewn gwirionedd ei ffilmio 5 awr ar droed i ffwrdd ... felly mae hynny’n daith bell i’r ysgol!). Cafodd rheilffordd Dyffryn Gwy ei chau yn y 60au ond mae’r bont rheilffordd yn dal yma, yn ogystal â’r Hen Orsaf ychydig lan y dyffryn.
Mae Cwrt Cefn Tilla yn blasty gwledig o’r 17eg ganrif rhwng Brynbuga a Rhaglan a chafodd ei ddefnyddio yn Nhymor 2. Welsoch chi ef? Gallwch aros yno’ch hunan, rhoi cynnig ar saethu colomennod clai a physgota genwair am eog, neu briodi yma.
Nid yw tŷ Aimee mewn gwirionedd yn Sir Fynwy, ond mae’n edrych drosti ar ochr Seisnig Dyffryn Gwy yn Bigsweir House, tŷ rhestredig Gradd II o’r 18fed ganrif. Mae’n gartref preifat, felly ni fedrwch alw heibio, ond byddwch yn mynd yn agos wrth i chi yrru lan Dyffryn Gwy a chroesi’r afon ym mhont Bigsweir.
Mae ein tref sirol mewn gwahanol olygfeydd, yn cynnwys tŷ Eric a golygfeydd ffair ar gaeau Vauxhall.
Er nad mewn gwirionedd yn Sir Fynwy, mae Symonds Yat o fewn deg munud mewn car o Drefynwy felly rydym weithiau yn hoffi ei hawlio ...Dyma ble mae chalet Jean yn edrych dros yr afon.
Canŵio o Symonds Yat i Drefynwy.
Dilyn Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy drwy Symonds Yat, Bigsweir, Llandogo a Thyndyrn
Lleoliad arall nad yw yn Sir Fynwy ond yn ddigon agos i ymweld ag ef. Hen gampws y Brifysgol yng Nghaer-llion yw lleoliad Moordale High. Mae Caerllion yn hen dref Rufeinig llawn hanes a dim ond 15 munud i ffwrdd mewn car o Brynbuga neu Fagwyr.