I'ch darparu gyda'r profiad gorau, defnyddir cwcis ar y safle hwn. Dysgwch fwy
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Ysbrydolwch Fi > Y Tymhorau yn Sir Fynwy
Mae Sir Fynwy yn lle gwych i brofi’r gwanwyn. Mae’n dymor o dechreuadau newydd a lliwiau llachar. Mae’r coed yn blaguro, y blodau’n blodeuo, anifeiliaid yn deffro a’r ddaear yn ffrwydro gyda bywyd unwaith eto. Cadwch olwg am gennin Pedr gwyllt sy’n blodeuo mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y cyntaf. Clychau’r gog fydd yn cyrraedd nesaf o ganol Ebrill i ganol Mai pan fyddant yn garped yn ein coetiroedd hynafol gyda’u blodau glas a phorffor. Gallwch weld lle mae’r arddangosiadau gorau o glychau’r gog yn Sir Fynwy yma. Ewch yno pan mae’n gwawrio pan mae’r gwlith yn codi i brofi effaith lawn eu harogl melys, cyfoethog.
Ymwelwch â’n gerddi yn ystod mis yr haf pan fydd y borderi blodau ar eu gorau. Mae’n rhaid gweld y borderi blodau dwbl ym Mhlasty High Glanau, a gynlluniwyd yn wreiddiol gan Henry Avray Tipping, ac a adferwyd yn gariadus wedyn gan Helena Gerrish, pan fydd y gerddi’n agor yn ystod misoedd yr haf fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.
Y tu allan i’n gerddi, mae blodau yr iris melyn yn gloywi ymylon ein dyfrffyrdd, llynnoedd, ffosydd a chorsydd, rhwng Mai ac Awst. Cadwch olwg hefyd am was y neidr lleiaf Prydain, gwas y neidr blewog (sy’n ddu yn bennaf gyda thoracs amlwg flewog) sydd i’w gweld mewn corsydd pori a phyllau gro dan ddŵr, ac ar hyd camlesi o’r gwanwyn. Mae gwarchodfa natur Cors Magwyr Bywyd Gwyllt Gwent yn lle gwych i weld yr iris melyn a hefyd Was y Neidr Blewog.
Yn ogystal â gerddi agored a gwarchodfeydd natur, mae ein rhaglen brysur o ddigwyddiadau yn golygu fod digonedd o bethau eraill cyffrous i’w gweld a’u gwneud yma yn ystod misoedd yr haf.
Hydref yw pryd y byddwn yn dathlu’r cynhaeaf a’r bwyd a dyfwn ar ein tir yng Ngŵyl Fwyd y Fenni a gynhelir ar drydydd penwythnos mis Medi, ac sydd yn rhyngwladol enwog. Mae’n lle i chefs, busnesau bwyd, newyddiadurwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr lleol ddod ynghyd, gyda’r nod o drawsnewid y ffordd mae pobl yn meddwl am fwyd, herio a hyrwyddo syniadau newydd, gwthio ffiniau syniadau presennol ac annog pobl i edrych yn wahanol ar ffynhonnell eu bwyd.
Yr hydref hefyd yw un o’r adegau gorau i brofi Dyffryn Gwy, gyda nifer gynyddol o ymwelwyr yn dod i weld lliwiau’r coed collddail yn y cwm coediog yn newid o wyrdd i goch, aur ac oren.
Dewch i Sir Fynwy yn y gaeaf i weld ein tirlun gaeafol hudolus gyda’i gopaon dan eira, tarth barrug yn ein dyffrynnoedd afon a golau gaeafol cynnes.
Mae’r gwasanaeth carolau blynyddol yng ngolau ffagl a gynhelir yn olion rhamantus Abaty Tyndyrn ym mis Rhagfyr yn brofiad gwirioneddol hudolus ac mae’r arddangosiadau ysblennydd o eirlysiau yng Ngardd Gerfluniau Dyffryn Gwy o ddiwedd Ionawr yn hwb i’r galon .
Bydd mynd am dro egnïol yn ein cefn gwlad bendigedig yn gwneud gwyrthiau i’ch hwyliau yn ogystal â helpu i losgi rhai o’r calorïau ychwanegol a gawsoch dros gyfnod y gwyliau. Dyma rai o’n hoff droeon0 gaeaf.