Am
1.75 milltir ar droed trwy ran o'r dref ac o gwmpas Caeau Vauxhall.
Mae hon yn daith gerdded hawdd heb gamfeydd ac un bont droed. Ymhlith y pwyntiau o ddiddordeb mae safle gefail â phwerau dŵr a adeiladwyd ar Afon Mynwy yn Osbaston yn y 12fed Ganrif. Ym 1899, adeiladodd Corfforaeth Trefynwy un o'r gorsafoedd cynhyrchu trydan cyntaf, dan berchnogaeth y cyhoedd, yma. Mae'r orsaf bŵer bresennol yn eiddo i'r Old Manor Electric Company; mae'n defnyddio dau 'Archimedes Screws' i gynhyrchu tua 670 megawat o drydan y flwyddyn, digon i bweru 150 o gartrefi.
Gweithredai melin am y tro cyntaf ar safle The Mill House (tŷ preifat erbyn hyn) ym 1448. Roedd corn yn cael ei falu yma o hynny tan ddechrau'r 20g, pan ddaeth yn weithdy peirianyddol.
Cyfleusterau
Llwybrau
- Disgrifiad o'r llwybr
- Hyd nodweddiadol y llwybr
- Hyd y llwybr (milltiroedd)