
Am
Cynhelir hon yng nghyffiniau ysbrydoledig Castell Cil-y-coed, ac mae'n ysgol haf i blant 11 – 16 oed sydd eisiau creu eu gwaith eu hunain a chreu theatr gyffrous mewn gofod newydd.
Bydd cyfranogwyr yn gweithio ar themâu sy'n bwysig iddynt, ac yn cael eu harwain gan hwyluswyr proffesiynol, Mari Luz Cervantes a Chez Dunford i ehangu eu syniadau i theatr.
Gan ddefnyddio nifer o sgiliau megis: ysgrifennu, dyfeisio, llwyfaniaeth, theatr gorfforol a byrfyfyrio, bydd pobl ifanc yn adeiladu darn/cyfres o ddarn bach i'w rannu gyda ffrindiau a theulu ar y diwrnod olaf.
Bydd hon yn wythnos hwyliog a diddorol i bob person ifanc sydd â diddordeb mewn datblygu gwaith creadigol, adrodd eu straeon unigryw ac archwilio gwahanol ddulliau gyda phobl greadigol lleol ifanc eraill.
Pris a Awgrymir
| Math o Docyn | Pris Tocyn |
|---|---|
| Plentyn | Am ddim |
FREE

i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.








