Am
Llyfr y llwch – La Belle Sauvage
Gan Philip Pullman, addaswyd gan Bryony Lavery. Cyfarwyddwyd gan Nicholas Hytner.
Wedi'i gosod ddeuddeg mlynedd cyn y drioleg epig His Dark Materials, mae'r addasiad gafaelgar hwn yn ailymweld â byd ffantasïol Philip Pullman lle mae dyfroedd yn codi a stormydd yn bragu.
Mae dau berson ifanc a'u dæmons, gyda phopeth yn y fantol, yn cael eu hunain yng nghanol manhunt arswydus. Yn eu gofal mae plentyn bach o'r enw Lyra Belacqua, ac yn y plentyn hwnnw y mae tynged y dyfodol. Ac wrth i'r dyfroedd godi o'u cwmpas, mae gwrthwynebwyr pwerus yn cynllwynio am feistrolaeth o Lwch: achubiaeth i rai, ffynhonnell llygredd anfeidrol i eraill.
Ddeunaw mlynedd ar ôl ei gynhyrchiad arloesol o His Dark Materials yn y Theatr Genedlaethol, mae'r cyfarwyddwr Nicholas Hytner yn...Darllen Mwy
Am
Llyfr y llwch – La Belle Sauvage
Gan Philip Pullman, addaswyd gan Bryony Lavery. Cyfarwyddwyd gan Nicholas Hytner.
Wedi'i gosod ddeuddeg mlynedd cyn y drioleg epig His Dark Materials, mae'r addasiad gafaelgar hwn yn ailymweld â byd ffantasïol Philip Pullman lle mae dyfroedd yn codi a stormydd yn bragu.
Mae dau berson ifanc a'u dæmons, gyda phopeth yn y fantol, yn cael eu hunain yng nghanol manhunt arswydus. Yn eu gofal mae plentyn bach o'r enw Lyra Belacqua, ac yn y plentyn hwnnw y mae tynged y dyfodol. Ac wrth i'r dyfroedd godi o'u cwmpas, mae gwrthwynebwyr pwerus yn cynllwynio am feistrolaeth o Lwch: achubiaeth i rai, ffynhonnell llygredd anfeidrol i eraill.
Ddeunaw mlynedd ar ôl ei gynhyrchiad arloesol o His Dark Materials yn y Theatr Genedlaethol, mae'r cyfarwyddwr Nicholas Hytner yn dychwelyd i fydysawd cyfochrog Pullman. Darlledwyd yn fyw o Theatr Bridge, Llundain.
Darllediad Byw
BBFC: 12A
Hyd o perfformiad: 180 munud (i'w gadarnhau)
Tocynnau: Oedolion £16, Consesiwn (dros 60 oed) £15, Myfyriwr/plentyn £13
Darllen Llai