
Am
AR LOG YN DATHLU EU PEN-BLWYDD YN 50 OED
Mae 2026 yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log. Mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai'r grŵp yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed pan ffurfiwyd y band yn ôl yn 1976 yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw. Ond, yn dilyn y cyngerdd cyntaf hwnnw, ar gyngor The Dubliners, mae'r band bellach wedi perfformio ledled Ewrop, a Gogledd a De America yn hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol Cymreig.
Er mwyn dathlu'r garreg filltir hon mae Ar Log yn trefnu taith o amgylch Cymru a'r Almaen, ac yn rhyddhau albwm newydd, Ar Log VIII, yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Bydd nifer o westeion arbennig yn ymddangos ar y daith gydag Ar Log, ac yn ystod y ddau berfformiad yn Galeri a Pontio Dafydd bydd Iwan yn perfformio gydag Ar Log am y tro olaf. Dyma'r bartneriaeth a oedd yn gyfrifol am y recordiad sydd bellach wedi dod yn ail anthem Cymru, 'Yma o Hyd'!
Pris a Awgrymir
| Math o Docyn | Pris Tocyn |
|---|---|
| Oedolyn | £18.00 fesul tocyn |
Plus £1 booking Fee

i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.








